Mae Cabinet Cyngor Powys wedi cytuno i beidio cynnal ymgynghoriad i gau tair ysgol gynradd fach yng ngogledd y sir.

Yn gynharach eleni, cytunodd y Cabinet i ddechrau proses statudol i gau Ysgolion yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain a Llangedwyn, ac Ysgol Bro Cynllaith yn Llansilin.

Yn dilyn astudiaethau pellach, fe wnaeth y Cynghorydd Phyl Davies, yr aelod cabinet ar gyfer addysg, argymell i’w gyd-aelodau i gymeradwyo’r newid i beidio â bwrw ymlaen ag ymgynghoriad i gau’r ysgol.

Roedd y cynlluniau’n rhan o strategaeth y cyngor i ad-drefnu’r ddarpariaeth ysgolion cynradd yn y sir rhwng 2020 a 2030, sydd eisoes wedi gweld sawl ysgol yn cau.

Ym mis Tachwedd, fe bleidleisiodd y cabinet i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru yng Nghastell Caereinion, ac mae cais wedi ei roi i’r cabinet i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru yn Llanbedr ger Crughywel.

Mae cynlluniau eraill hefyd ar y gweill i gau ysgolion cynradd yn Yr Ystog a Llanfihangel Rhydieithon.

“Anymarferol”

Fe wnaeth y Cynghorydd Phyl Davies hefyd argymell i weddill y cabinet i wneud tro pedol ynglŷn â chodi estyniad newydd yn Ysgol yr Eglwys yn Llansantffraid, a fyddai wedi cynyddu capasiti’r ysgol i 90.

Roedd y Cabinet wedi cytuno i ddechrau datblygu achos cyfiawnhad busnes ar gyfer codi estyniad newydd i’r ysgol, a dechrau’r broses o wneud newid rheoledig er mwyn cael capasiti ychwanegol ar ei chyfer.

Clywodd y cabinet ddoe (21 Rhagfyr), fod astudiaeth dichonoldeb yn edrych ar hyfywedd ymestyn yr ysgol wedi codi pryderon ynghylch a oedd hi’n ymarferol codi estyniad ar y safle presennol.

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, ei bod hi’n “amlwg o ganfyddiadau’r astudiaeth ddichonoldeb a’r achos cyfiawnhad busnes nad ydym yn gallu datblygu estyniad i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llansantffraid”.

“Oherwydd y canfyddiadau hyn, rwy’n argymell i’r Cabinet i beidio â bwrw ymlaen â’r estyniad i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llansantffraid ac i beidio â bwrw ymlaen a’r ymgynghoriad arfaethedig ar gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn ac Ysgol Bro Cynllaith,” meddai.

“Argymhellais hefyd eu bod yn cyfarwyddo’r Tîm Trawsnewid Addysg i ddod â chynigion eraill ar gyfer Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn ac Ysgol Bro Cynllaith yn ddi-oed.”

Tro pedol posib ynghylch cau tair ysgol gynradd yng ngogledd Powys

Bydd pleidlais heddiw (dydd Mawrth, 14 Rhagfyr) i gadw ysgolion cynradd yn Llangedwyn, Llanfechain, a Llansilin ar agor