Bydd cabinet Cyngor Sir Powys yn penderfynu heddiw (dydd Mawrth, 14 Rhagfyr) a fyddan nhw’n bwrw ymlaen gyda chynlluniau i gau tair ysgol gynradd yng ngogledd y sir.
Roedd bwriad i gau Ysgolion yr Eglwys yng Nghymru yn Llanfechain a Llangedwyn, yn ogystal ag Ysgol Bro Cynllaith yn Llansilin, Sir Drefaldwyn.
Daw hynny yn rhan o strategaeth y cyngor i ad-drefnu’r ddarpariaeth ysgolion cynradd yn y sir rhwng 2020 a 2030, sydd eisoes wedi gweld sawl ysgol yn cau.
Ym mis Tachwedd, fe bleidleisiodd y cabinet i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru yng Nghastell Caereinion, ac mae cais wedi ei roi i’r cabinet i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru yn Llanbedr ger Crughywel.
Mae cynlluniau eraill hefyd ar y gweill i gau ysgolion cynradd yn Yr Ystog a Llanfihangel Rhydieithon.
Tro pedol
Ond yn dilyn astudiaethau pellach, bydd Phyl Davies, yr aelod cabinet ar gyfer addysg, yn argymell i’w gyd-aelodau i gymeradwyo’r newid i beidio â bwrw ymlaen ag ymgynghoriad i gau’r ysgol.
Bydd Phyl Davies hefyd yn argymell i weddill y cabinet i wnedu tro pedol ynglŷn â chodi estyniad newydd yn Ysgol yr Eglwys yn Llansantffraid, a fyddai wedi cynyddu capasiti’r ysgol i 90.
“Mae’n amlwg o ganfyddiadau’r astudiaeth ddichonoldeb a’r achos cyfiawnhad busnes na allwn ddatblygu estyniad i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru, Llansantffraid,” meddai Phyl Davies.
“Oherwydd y canfyddiadau hyn, byddaf yn argymell i’r Cabinet i beidio â bwrw ymlaen â’r estyniad i Ysgol yr Eglwys yng Nghymru, Llansantffraid.
“Byddaf hefyd yn argymell nad ydym yn bwrw ymlaen ag ymgynghoriad arfaethedig ar gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn, ac Ysgol Bro Cynllaith.
“Byddaf yn annog y Cabinet i ddweud wrth y Tîm Trawsnewid Addysg am ddod â chynigion eraill ar gyfer Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llangedwyn ac Ysgol Bro Cynllaith yn ddi-oed.”
Statws Gymraeg
Roedd y Cynghorydd ward Llanwddyn, Bryn Davies, yn galw am nid yn unig cadw Ysgol Bro Cynllaith ar agor, ond yn dymuno ei gweld hi’n cael statws Gymraeg.
“Yn naturiol, rydych chi’n croesawu peidio gorfod cau’r ysgol,” meddai ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.
“Ond mae hi’n anodd cyfiawnhau cadw ysgol yn agored, sydd â dim ond rhyw 25 o blant ynddi, ac mae rhai ysgolion yn llai eto.
“Yn yr ysgol yn ardal Llansilin, rydyn ni wedi bod yn galw am addysg ddwyieithog i bawb ers dros hanner canrif rŵan.
“Mae yna ddwsin da o blant o ddalgylch Ysgol Bro Cynllaith, yn cael eu cludo ers hanner dwsin o flynyddoedd i Ysgol Llanrhaeadr ym Mochnant, ac felly mae Ysgol Bro Cynllaith yn artiffisial o fach.”
“Rydyn ni o fewn lled cae o’r ffin â Lloegr a Swydd Amwythig, ac mae Cymry Cymraeg yn byw yn fan hynny.
“Felly pe bai Ysgol Bro Cynllaith yn ddwyieithog, nid yn unig fydden ni’n gallu cadw’r dwsin o blant sy’n barod i deithio am eu haddysg Gymraeg, ond hefyd, fydden ni’n denu plant o Swydd Amwythig sydd hefyd yn dymuno addysg Gymraeg.”