Mae cynlluniau i ddiwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol wedi cael ei disgrifio fel “ymdrech amlwg i gipio pŵer gan Lywodraeth sydd am roi eu hunain uwchben y gyfraith”.
Bydd y diwygiadau yn cael eu cyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Dominic Raab, yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw dydd Mawrth (14 Rhagfyr).
Mae’r cynlluniau wedi ysgogi ymateb cryf gan ymgyrchwyr sy’n dweud eu bod yn “fygythiad i sut a phryd y gallwn herio’r rhai sydd mewn grym”.
Dywedodd Dominic Raab y bydd y diwygiadau’n ychwanegu “dos iach o synnwyr cyffredin” i’r ffordd mae deddfwriaeth a dyfarniadau yn cael eu dehongli.
Ond dywed Martha Spurrier, cyfarwyddwr y grŵp hawliau dynol Liberty: “Mae’r cynllun hwn i ddiwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol yn ymdrech amlwg i gipio pŵer gan Lywodraeth sydd am roi eu hunain uwchben y gyfraith.
“Maen nhw’n ailysgrifennu’r rheolau o’u plaid nhw fel nad oes modd eu dwyn i gyfrif”
“Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn diogelu pob un ohonom. Mae’r syniad o golli hynny yn frawychus.
“Mae’n gyfraith hanfodol sy’n ein galluogi i herio awdurdodau cyhoeddus pan fyddant yn gwneud pethau’n anghywir ac mae wedi helpu i sicrhau cyfiawnder ar bopeth o’r hawl i fywyd i’r hawl i leisio barn.”
Pedwar diwygiad allweddol
Mae disgwyl i ganfyddiadau adolygiad o’r Ddeddf gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â lansio ymgynghoriad tri mis yn gofyn am farn ar y cynlluniau.
Gan ysgrifennu yn The Times, amlinellodd Dominic Raab bedwar diwygiad allweddol a fydd yn cael eu cyflwyno gan y Bil Hawliau newydd.
Yn gyntaf, dywedodd y byddai’r bil yn “cryfhau” gallu pobol i leisio barn, drwy ddisodli cyfraith preifatrwydd.
Yn ail, bydd y bil yn tynnu “ffin gliriach” rhwng pwerau’r llysoedd a’r senedd drwy roi terfyn ar yr angen i lysoedd y Deyrnas Unedig ystyried cyfraith achosion Llys Strasbwrg.
Yn drydydd, bydd yn dod â’r arfer o lysoedd y Deyrnas Unedig yn newid deddfwriaeth newydd i ben, gan adael hynny i “unigolion etholedig” yn y senedd.
Yn olaf, bydd “cam caniatâd” ar gyfer hawliadau hawliau dynol yn cael ei gyflwyno.
Bydd gofyn i ymgeiswyr brofi eu bod wedi dioddef “anfantais sylweddol” cyn hawlio iawndal am dorri eu hawliau dynol.