Mae Aelod o’r Senedd a Chynghorydd Sir Ceidwadol wedi ymddiheuro ar ôl defnyddio adnoddau’r Senedd ar gyfer y ddwy swydd.
Mae Gareth Davies, Aelod o’r Senedd dros etholaeth Dyffryn Clwyd, hefyd yn aelod o Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer ward De Orllewin Prestatyn, ond dydy o ond wedi mynychu 50% o gyfarfodydd y Cyngor ers mis Mehefin.
Ond mae ei gyd-Gynghorydd Paul Penlington wedi cwyno’n swyddogol wrth y Senedd, gan honni bod Davies yn torri rheolau’r sefydliad drwy weithio fel cynghorydd o’i swyddfa yng Nghaerdydd.
Cŵyn
Dywedodd Penlington fod Gareth Davies yn “defnyddio ei swyddfa yn y Senedd i alw heibio cyfarfodydd y Cyngor Sir am ymddangosiad byr unwaith bob ychydig fisoedd, yn lle gwneud y swydd mae’n cael ei dalu’n dda iawn i’w gwneud”.
“Dim ond 50% o gyfarfodydd Cyngor Sir Dinbych y mae Gareth Davies wedi eu mynychu fel cynghorydd sir Prestatyn ac aelod o’r Senedd,” meddai yn ei gŵyn.
“Gan amlaf, mae hynny o’i swyddfa yng Nghaerdydd yn ystod yr amser y dylai fod yn gweithio yn y Senedd.
“Mae ei ddiffyg cynrychiolaeth yn lleol yn costio dros £81,000 y flwyddyn i drethdalwyr, ynghyd â threuliau.
“Ar wahân i gamddefnyddio ei amser a’i adnoddau yn y Senedd, mae’n gwneud gwawd o’r bobl sy’n disgwyl iddo eu cynrychioli.
“Os yw am gael y tâl, dylai weithio yn y swydd. Fel rheol, y peth anrhydeddus yw i gynghorydd gamu i lawr os bydd yn cymryd swydd uwch.”
‘Osgoi cynnal isetholiad costus’
Mae cyflogau Aelodau o’r Senedd ar hyn o bryd yn £67,649 y flwyddyn, ac mae Davies hefyd yn derbyn cyflog o £14,217 gan y Cyngor a chyfraniadau pensiwn, yn ôl cofnodion yr awdurdod.
Fe ymddiheurodd llefarydd ar ran Gareth Davies, gan ddweud y byddai’n camu o’i rôl fel cynghorydd ym mis Mai, ac y byddai’n rhoi ei holl gyflog gan y Cyngor i elusen.
Pan gafodd ei holi ynglŷn â manylion y cyfraniad hwnnw, ni wnaeth y llefarydd gynnig ateb.
“Mae Gareth Davies wedi gwasanaethu etholwyr yn Ne-orllewin Prestatyn ers 2017, ac fe addawodd wneud yr ardal yn lle gwell a mwy diogel i fyw, gweithio a chwarae,” meddai.
“Cafodd ei record o ddarparu’n lleol ei gydnabod gan bobl ledled etholaeth Dyffryn Clwyd fis Mai diwethaf pan wnaethon nhw bleidleisio drosto fel yr Aelod nesaf o’r Senedd.
“Fel aelodau eraill sydd wedi eu hethol yn ddiweddar, a oedd hefyd yn gynghorwyr sir, mae wedi ymrwymo i wasanaethu gweddill ei dymor tan fis Mai nesaf, gan osgoi cynnal isetholiad costus gwerth miloedd o bunnoedd i drethdalwyr.
“Mae Gareth hefyd yn rhoi ei gyflog gan y Cyngor i achosion elusennol.
“Fel aelod newydd, nid oedd yn gwbl ymwybodol o reolau’r Senedd ynglŷn â mynychu cyfarfodydd rhithwir y cyngor ac ers hynny mae wedi ymddiheuro’n llawn i’r Llywydd a’r Comisiynydd Safonau, gan nodi’n glir na fydd hyn yn digwydd eto.
“Mae Gareth wedi cael yr anrhydedd o fod wedi cynrychioli ei gymuned leol dros y pum mlynedd diwethaf a bydd yn parhau i’w cynorthwyo a gweithio’n galed ar eu rhan – gan gynnwys gwrthwynebu’r datblygiad tai arfaethedig ar y tir ger Alexandra Drive – nes iddo gamu i lawr ym mis Mai.”
Gwrthododd y Senedd wneud sylw ar y mater.