Mae Pau Juvillà, aelod seneddol yng Nghatalwnia sy’n cynrychioli plaid CUP, wedi cael dirwy o 1,080 ewro a gwaharddiad rhag bod mewn swydd gyhoeddus am chwe mis ar ôl iddo arddangos rhuban melyn yr ymgyrch tros annibyniaeth.
Cafwyd e’n euog yn Uchel Lys Catalwnia o anufudd-dod yn ystod etholiadau lleol 2019, pan oedd e’n aelod o Gyngor Dinas Lleida ac yn arddangos y rhuban yn swyddfa’r CUP yno.
Ers 2017 a’r refferendwm annibyniaeth oedd yn cael ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Lywodraeth Sbaen, mae’r rhuban yn arwydd o undod â’r rhai a gafodd eu carcharu am eu rhan yn y refferendwm hwnnw a’r rhai oedd wedi symud dramor er mwyn osgoi cyhuddiadau.
Plaid Ciudadanos, sydd o blaid aros yn rhan o Sbaen, oedd wedi cyflwyno’r gŵyn yn erbyn Juvillà ond fe wnaeth e wrthod tynnu’r rhuban i lawr cyn cael ei gyhuddo, a bu’n rhaid i’r heddlu weithredu yn y pen draw a thynnu’r symbol oddi yno.
Roedd erlynwyr wedi gwneud cais i’w wahardd o swydd gyhoeddus am wyth mis a dirwy o 1,440 Ewro.
Gan fod Juvillà wedi dod yn aelod seneddol yn Senedd Catalwnia yn dilyn etholiadau mis Chwefror, bu’n rhaid cynnal yr achos yn yr Uchel Lys.
Quim Torra
Daw achos Pau Juvillà ar ôl i’r cyn-arweinydd Quim Torra wynebu cyhuddiadau tebyg yn y gorffennol.
Cafodd ei gyhuddo ddwywaith, yn 2019 a 2020, o anufudd-dod am arddangos y rhuban ym mhencadlys Llywodraeth Catalwnia yn Barcelona yn ystod cyfnod etholiadau.
Fis Medi y llynedd, fe wnaeth Goruchaf Lys Sbaen gefnogi dyfarniad Uchel Lys Catalwnia yn 2019 y dylid gwahardd Torra am 18 mis.
Roedd hynny’n golygu, i bob pwrpas, fod ei gyfnod yn arweinydd Catalwnia ar ben, ac fe ddaeth Pere Aragonès i rym.