Mater i’r awdurdodau pêl-droed ei benderfynu yw a ddylai rheolwyr gael gwisgo symbolau gwleidyddol, yn ôl prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement.
Fe fydd yr Elyrch yn dod wyneb yn wyneb â Man City yn yr Uwch Gynghrair yn Stadiwm Liberty nos Fercher, a rheolwr yr ymwelwyr, Pep Guardiola’n gwisgo rhuban melyn sydd wedi’i wahardd yng Nghatalwnia.
Mae’r rhuban yn arwydd o gefnogaeth i wleidyddion sydd wedi’u carcharu am eu rhan yn y refferendwm annibyniaeth sy’n cael ei ystyried yn anghyfansoddiadol yn Sbaen.
Hyd yn ddiweddar, roedd chwaraewyr pêl-droed wedi’u gwahardd rhag arddangos symbolau gwleidyddol ar eu dillad yn ystod gemau.
Helynt y pabi
Un o’r symbolau oedd wedi’i wahardd gan FIFA tan yn ddiweddar oedd y pabi adeg Sul y Cofio.
Cafodd holl dimau cenedlaethol Prydain eu cosbi’r llynedd am arddangos y pabi yn ystod gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Ond fe gafodd Cymru ganiatâd i’w wisgo ar gyfer eu gêm gyfeillgar yn erbyn Ffrainc fis diwethaf.
Rhuban melyn
Mae’n ymddangos bellach y gallai rhuban melyn Catalwnia arwain at y ffrae ddiweddaraf oddi ar y cae, ar ôl i reolwr Man U, Jose Mourinho dynnu sylw at weithred Pep Guardiola cyn eu gêm ddarbi dros y penwythnos.
Roedd Mourinho wedi cwestiynu a fyddai yntau wedi cael gwisgo arwyddion gwleidyddol heb gael ei gosbi.
Ond wrth ymateb, dywedodd Pep Guardiola ei fod yn gwisgo’r rhuban melyn i gefnogi dau garcharor ac y byddai’n parhau i wneud hynny “tan eu bod nhw allan”, gan ychwanegu, “Gallan nhw fy ngwahardd i am hynny, ond mae pobol eraill yn dal yn y carchar.”
‘Priodol ai peidio’
Dywedodd Paul Clement wrth golwg360: “Mae gofyn i ni fel rheolwyr wisgo gwahanol bethau i gefnogi gwahanol elusennau, felly dw i’n credu bod pobol yn gweld hynny fel rhywbeth da.
“Mae Pep wedi dewis gwneud rhywbeth sy’n amlwg yn golygu cryn dipyn iddo fe ac os yw’n cael gwneud, pam lai?
“Dw i’n credu mai mater i’r awdurdodau ehangach yw penderfynu a yw’n briodol ai peidio.
“Gyda hyn yn digwydd, dw i’n siŵr mai dyma fydd y peth nesaf ar yr agenda [gan FIFA]. Os yw e’n [gwisgo’r rhuban melyn], beth fydd nesaf?”
Cefnogaeth yn y gorffennol
Nid dyma’r tro cyntaf i fater Catalwnia – na mater gwleidyddol ar y cyfan – gael cefnogaeth yn y byd pêl-droed.
Yn 2015, cafodd tîm Barcelona ddirwy o £21,250 gan Uefa ar ôl i’w cefnogwyr arddangos baner o blaid annibyniaeth i Gatalwnia yn ystod rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn Berlin.
Ac yn 1997, cafodd ymosodwr Lerpwl, Robbie Fowler ddirwy o £900 am ddangos ei grys oedd yn cefnogi gweithwyr yn nociau’r ddinas oedd wedi cael eu diswyddo.