Mae cefnogwyr Clwb Pêl-droed Caerfyrddin yn pryderu am eu dyfodol oherwydd eu safle ar waelod Uwch Gynghrair  Cymru y tymor hwn.

Mae’r Hen Aur gyda phum pwynt ac mae gan y clybiau uwch eu pennau bymtheg – felly mae gwaith caled ar y gorwel i osgoi disgyn allan o’r Uwch Gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes.

Anafiadau

“Rydan ni fel bob clwb wedi dioddef o anafiadau, mae Lewis Harling yn allweddol i’r tîm ac mae wedi bod yn golled anferth -ond y golled fwyaf yn fy marn i ydi’r ymosodwr, Mark Jones,” meddai Geraint Huws wrth golwg360.

“Roedd Jones yn sgorio ambell i gôl, ond roedd yn un da am ddal y bêl  a chreu cyfleoedd i Liam Thomas. Rwy’n sicr hefyd bod problem a diffyg ffitrwydd neu ganolbwyntio.

“Roedden ni’n colli 3-2 i’r Seintiau Newydd ond wnaethom ildio dwy gôl hwyr i golli 5-2, ac yng ngêm Cwpan Cymru yn erbyn Rhydaman roedden ni’n ennill 2-0, wnaethon ni ildio dwy gôl i unioni’r sgôr, ond y tro hyn naethon ni sgorio ni’r gôl fuddugol, roedd yn gêm gwpan traddodiadol gyda chae mwdlyd, a chwarae teg i Rydaman, wnaethon nhw roi dipyn o gêm i ni.

“Un o’u sgorwyr oedd Gavin Jones, sydd gyda thîm datblygu Caerfyrddin, felly posib bod dyfodol iddo yng Nghaerfyrddin?”

“Roedd canlyniad dydd Sadwrn yn erbyn Llandudno yn un teg, ond roedd cyfnodau yn y gêm lle’r oedd gobaith am y dyfodol i ni, roedd yn bwynt gwerthfawr. Mae bob gêm  o rŵan tan ar ôl y Nadolig yn hanfodol, bydd gwell syniad gennym yn Ionawr o’n dyfodol.”

“Lles yr ardal”

“Mae angen i ni aros yn yr Uwch Gynghrair er lles yr ardal, mae Hwlffordd yn gwneud yn dda yng  nghynghrair y de, ond dw i ddim yn siŵr o’i uchelgais i ddod nôl i’r Uwch Gynghrair, eto mae Llanelli yn neud yn dda, a phe baen nhw’n cael dyrchafiad basa’n wych i’r ardal.

“Ond pe baem ni’n mynd i lawr, dim ond Met Caerdydd a’r Barri fyddai yn y gynghrair o ardal y de.

“Mae ein  rheolwr, Mark Aizlewood, wedi bod wrth y llyw ers dros bum mlynedd ac wedi ennill cwpan y gynghrair yn 2013 a 2014, a wnaeth estyn ei gytundeb am ddwy flynedd arall yn ddiweddar.

“Mae nifer yn y clwb wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd i gael adnoddau gwych i’r clwb yn cynnwys y cae 3G newydd, felly gobeithio byddan nhw’n troi’r gornel yn fuan ac yn arwyddo dau neu dri o chwaraewyr newydd yn Ionawr i  ddringo’r tabl,” meddai.