Mae Quim Torra, arweinydd Catalwnia, yn wynebu cyhuddiadau ar ôl bod yn gwisgo rhuban melyn i ddangos ei gefnogaeth i’r ymgyrch annibyniaeth.

Mae erlynwyr yn Sbaen yn dweud ei fod e wedi anwybyddu gorchmynion bwrdd etholiadol y wlad i dynnu symbolau annibyniaeth oddi ar bencadlys y llywodraeth yn Barcelona cyn etholiadau’r wlad.

Mae’r rhuban yn cael ei ystyried yn “arf propaganda gwleidyddol”, ac mae gwleidyddion a swyddogion wedi’u gwahardd rhag dangos eu hochr yn ystod ymgyrch etholiadol.

Ond mae Quim Torra yn dweud fod ganddo’r hawl i ddatgan ei farn yn rhydd, ac fe fu’n galw am ohirio’r dyddiad ar gyfer tynnu’r symbolau.

Bydd barnwr yn ystyried a ddylid dwyn achos yn ei erbyn.