Mae Jeremy Corbyn yn barod i gefnogi’r alwad am ail refferendwm ar ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, yn ôl un o aelodau seneddol Llafur.
Mae’r Fonesig Margaret Beckett wedi cyflwyno gwelliant sy’n galw am bleidlais gyhoeddus ar unrhyw gynllun Brexit sy’n cael ei gyflwyno gan Theresa May.
Daw’r sïon wrth i brif weinidog Prydain baratoi i gyflwyno’i chynllun am y trydydd tro.
Mae Gwelliant Beckett ymhlith y mesurau sy’n cael eu hystyried gan wleidyddion San Steffan ar ôl i’r Senedd gipio rheolaeth ar y sefyllfa ar ddechrau’r wythnos.
“Fe fydd e’n gorchymyn ASau i bleidleisio dros hyn,” meddai Peter Kyle, un o aelodau meinciau cefn Llafur, wrth raglen Today ar BBC Radio 4.
“Cawson ni broses adeiladol iawn o ymgysylltu â fe. Doedd e ddim yn reddfol yn ein herbyn ni ar unrhyw adeg.”
Ychwanegodd fod nifer o Geidwadwyr hefyd yn barod i gefnogi’r gwelliant, ond mae rhai aelodau seneddol Llafur yn rhybuddio fod perygl y gallai Llafur gael ei gweld fel plaid sy’n cefnogi aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
Rhybudd i Theresa May
Yn y cyfamser, mae Syr Oliver Letwin, un arall sydd wedi cyflwyno gwelliant, yn rhybuddio y gallai Theresa May golli ei swydd oni bai ei bod hi’n gwrando ar ddymuniadau’r senedd.
Ond mae Andrea Leadsom, arweinydd Tŷ’r Cyffredin, yn gwrthod dweud a ddylai hi gamu o’r neilltu ar ôl i’r broses gael ei chwblhau.
“Dw i’n llwyr gefnogol i’r prif weinidog wrth iddi ein cael ni allan o’r Undeb Ewropeaidd,” meddai.
“Mater iddi hi yw [ymddiswyddo].
“Dw i ddim am leisio barn.”
Un sy’n barod i’w chefnogi, yn groes i’r disgwyl efallai, yw Jacob Rees-Mogg, sydd wedi bod yn wrthwynebus i’w chynllun ers y dechrau.
Serch hynny, mae’n dweud mai “gwendid y Llywodraeth” sy’n gyfrifol am orfod ohirio ymadawiad Prydain y tu hwnt i ddydd Gwener.