Mae gweddw Carl Sargeant wedi ennill her gyfreithiol yn erbyn cyfreithlondeb gwrandawiad i’w ddiswyddiad.

Cafwyd hyd i’r cyn-Weinidog Cymunedau yn farw ddyddiau ar ôl iddo golli ei swydd yn Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2017.

Roedd honiadau ei fod e wedi ymddwyn yn amhriodol tuag at fenywod.

Cyhoeddodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog ar y pryd, ymchwiliad i’r modd y cafodd ei ddiswyddo yn dilyn pwysau gan ei deulu.

Ond fe fu Bernie Sargeant yn herio’r drefn honno.

Fe wnaeth cyfreithwyr ar ran y teulu ddadlau’n llwyddiannus fod Carwyn Jones wedi ymddwyn “yn groes i gyfiawnder naturiol” wrth wneud penderfyniadau ynghylch yr achos.

Ond roedd cyfreithwyr ar ran Carwyn Jones yn dweud ei fod wedi ymddwyn yn gyfreithlon.

Mae teulu Carl Sargeant yn dweud nad oedd e’n gwybod beth oedd natur y cyhuddiadau ac felly, nad oedd modd iddo amddiffyn ei hun.