Gallai Cosofo chwarae rhan bwysig yng ngobeithion Serbia o ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Serbia eisoes wedi dechrau trafod cyfres o bolisïau amgylcheddol a fyddai’n allweddol os ydyn nhw am ymuno â’r 27 gwlad arall yn y bloc.

Ond mae’r llywodraeth yn Belgrade yn gwybod y gallai’r wlad a ddaeth yn annibynnol yn 2008 a’i pherthynas â hi fod yn hollbwysig cyn y bydd modd iddyn nhw ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’n rhaid i unrhyw wlad sydd am ymuno â’r Undeb Ewropeaidd gydymffurfio â chyfres o safonau’r bloc, a hynny drwy gytuno ar bolisïau mewn 35 o feysydd polisi, gan gynnwys rhyddid gweithwyr i symud, trethi, amaeth a’r economi.

Mae’r trafodaethau ynghylch newid hinsawdd a’r amgylchedd, ynni, trafnidiaeth a rhwydweithiau isadeiledd ar y gweill erbyn hyn.

Mae Belgrade wedi agor 22 o benodau negodi ers i’r trafodaethau ynghylch ei haelodaeth bosib o’r Undeb Ewropeaidd ddechrau yn 2014, ond dyma’r tro cyntaf i bedair pennod gael eu hagor ar yr un pryd, ac mae’r prif weinidog Ana Brnabic yn dweud bod hyn yn “garreg filltir bwysig iawn yn ein proses integreiddio Ewropeaidd”.

Cafodd y sylwadau eu hategu gan Oliver Varhelyi, un o gomisiynwyr yr Undeb Ewropeaidd, ond fe ddywedodd fod y berthynas â llywodraeth Cosofo “yn parhau’n hanfodol ar gyfer cyflymdra’r trafodaethau”.

Y berthynas

Hyd yn hyn, mae Serbia yn gwrthod cydnabod gwladwriaeth Cosofo ers iddi ddod yn wlad annibynnol yn 2008.

Ond mae’r Unol Daleithiau a’r Gorllewin ar y cyfan yn ei chydnabod hi, er nad yw pump o wledydd yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r trafodaethau wedi dod i groesffordd erbyn hyn.

Fis Medi, fe wnaeth llywodraeth Cosofo anfon heddluoedd arbennig i’r ffin i gyflwyno rheolau newydd o dynnu platiau Serbiaidd oddi ar geir oedd yn dod i mewn i’r wlad hyd nes bod cytundeb rhwng y ddwy wlad ynghylch y sefyllfa.