Dydi Llywodraeth Cymru heb “dynnu dim byd oddi ar y bwrdd” o ran penderfynu ar gyfyngiadau pellach i fynd i’r afael ag achosion Covid-19, yn ôl Eluned Morgan.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 14) mai’r “peth olaf” y maen nhw eisiau ei wneud yw “canslo’r Nadolig”, ond eu bod nhw “wirioneddol ddim yn gwybod” sut fydd y sefyllfa o ran cyfraddau Covid erbyn hynny.
Mae hi’n “debygol” y bydd “rhai mesurau ychwanegol yn cael eu cyflwyno yn ystod yr adolygiad nesaf” ddydd Gwener (Rhagfyr 17), meddai.
Cyflymu’r rhaglen frechu yw “blaenoriaeth” y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, meddai Eluned Morgan, a bydd gofal sydd wedi’i gynllunio yn cael ei “dorri ‘nôl rywfaint” am dair wythnos, gyda staff yn cael eu dargyfeirio.
‘Cynllunio cyn cyhoeddi’
Bydd canolfannau brechu yn ymestyn eu horiau agos er mwyn cynyddu eu capasiti, a thros y dyddiau nesaf bydd y byrddau iechyd yn tecstio a ffonio pawb sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn er mwyn cynnig apwyntiad ar gyfer y trydydd.
Fe fydd rhai pobol yn cael cynnig i fynychu sesiynau galw heibio, gan gael eu galw yn nhrefn eu blaenoriaeth.
Bydd angen mwy na dyblu cyflymder y rhaglen frechu i gyrraedd y targed o gynnig brechlyn i bawb erbyn diwedd mis Rhagfyr, meddai Eluned Morgan.
Ddoe, cafodd 26,000 o frechlynnau eu rhoi yng Nghymru, ac er bod y rhaglen wedi dechrau cyflymu’n barod, mi fydd y rhaglen yn cyflymu mwy yn y dyddiau a’r wythnosau nesaf, meddai Dr Gill Richardson, dirprwy swyddog meddygol Cymru ar gyfer yr rhaglen frechu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau gyda staff gofal sylfaenol, ac mae tua 16,000 ohonyn nhw’n gymwys i roi brechlynnau.
“Rydyn ni wedi bod yn cael trafodaethau gyda nhw dros y penwythnos,” meddai Eluned Morgan.
“Rydyn ni’n gwneud pethau’n wahanol iawn yma yng Nghymru. Rydyn ni’n gweithio pethau allan cyn ein bod ni’n eu cyhoeddi nhw, felly dyna sut rydyn ni’n osgoi’r golygfeydd dyrys roeddech chi’n eu gweld yn Lloegr ddoe.
“Rydyn ni’n cynllunio cyn cyhoeddi.
“Rydyn ni am wneud ein rhan yma, rydyn ni am ddarparu’r cyfleusterau a’r cyfleoedd i bobol gael eu brechlyn atgyfnerthu, ond fel dywedodd y Prif Weinidog neithiwr, mae hi’n hanfodol bod pobol yn camu ymlaen pan maen nhw’n cael eu galw am eu brechlyn atgyfnerthu er mwyn amddiffyn eu hunain.
“Dydi dau ddos o’r brechlyn ddim yn ddigon, rydych chi wirioneddol angen y brechlyn atgyfnerthu. Felly plîs dewch ymlaen.”
Ychwanegodd fod angen i bobol sydd heb gael yr un dos eto fynd am eu brechlyn cyntaf “oherwydd rydyn ni mewn sefyllfa anodd a dydyn ni ddim yn hollol siŵr beth rydyn ni’n ei wynebu eto”, ond “nawr mae’r cyfle”.
Mesurau pellach
Wrth drafod mesurau pellach, dywedodd Eluned Morgan nad ydyn nhw wedi diystyru dim byd eto, ond ei bod hi’n bwysig bod yn ofalus nawr.
Mae’r camau hynny’n cynnwys cymryd prawf llif unffordd cyn mynd allan, a pharhau i gadw at fesurau megis gwisgo mygydau, cadw pellter, sicrhau awyru da, golchi dwylo ac ati.
Dylai pobol sydd yn glinigol fregus “wneud eu hasesiad risg” eu hunain cyn mynd allan, meddai Dr Gill Richardson.
Dywedodd y dylai pobol fregus “sicrhau nad ydyn nhw’n mynd i lefydd torfol iawn heb fwgwd, a cheisio cymdeithasu mewn llefydd sydd wedi’u hawyru”.
Mae hi’n “ddyletswydd” ar bobol sy’n mynd i ymweld â phobol sy’n glinigol fregus i gymryd prawf llif unffordd cyn mynd hefyd, er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n trosglwyddo Covid iddyn nhw.
Wrth ateb cwestiwn ynghylch a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno cyfnod clo pe bai raid, dywedodd Eluned Morgan fod Llywodraeth Cymru “am wneud yr hyn mae’n rhaid i ni ei wneud er mwyn cadw pobol Cymru yn ddiogel”.
“Bydd hi’n anoddach i ni gyflwyno cyfnod clo llawn heb gefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, ac mae trafodaethau parhaus ar y gweill gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ran beth sy’n bosib.
“Ond rydyn ni dal i asesu’r sefyllfa. Ond mae hi’n debyg y byddwn ni’n gweld rhai mesurau ychwanegol yn cael eu cyflwyno yn ystod yr adolygiad nesaf.”
‘Anrhagweladwy’
Wrth ateb cwestiwn ynghylch a ddylai pobol ddechrau ailystyried eu cynlluniau ar gyfer y Nadolig, fe wnaeth Eluned Morgan ymddiheuro nad yw hi’n bosib iddi fod yn fwy pendant gan fod y sefyllfa’n newid mor sydyn.
“Mae’n ddrwg iawn gen i na alla i fod yn gliriach achos does gennym ni’n wirioneddol ddim syniad pa mor sydyn mae’r Omicron yma am ledaenu,” meddai.
“Yn sicr, dw i’n meddwl y dylai pobol gynllunio achos dydyn ni ddim yn gwybod sut fydd y sefyllfa yn ystod y Nadolig.
“Yn sicr, byddai cymryd y cyfle i wneud pethau’n gynnar yn opsiwn call ond does gennym ni ddim syniad sut mae’r Nadolig am edrych oherwydd ei bod hi’n sefyllfa mor anrhagweladwy o ran y cyfraddau yn ein cymunedau.”
Cafodd Eluned Morgan ei holi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pobol am gadw at reolau, o ystyried awgrymiadau bod yr honiadau am bartïon yn Downing Street dros y Nadolig y llynedd am wneud i bobol fod yn llai tebygol o ddilyn y mesurau.
“Dw i’n meddwl mai’r hyn sydd eisiau ei wneud yng Nghymru yw edrych ar yr esiampl sydd wedi’i gosod gan ein Prif Weinidog yn hytrach na’r esiampl sydd wedi’i gosod yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig gan Boris Johnson,” meddai.
“Dw i’n meddwl bod y cyhoedd wedi deall yr arweinyddiaeth gan Mark Drakeford yn ystod y pandemig hwn, mae e wedi bod yn sicr, mae e wedi bod yn ofalus iawn. Ac mae pobol Cymru i weld wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i hynny.
“Felly byddwn yn gofyn i bobol gadw eu ffydd yn y Prif Weinidog wrth iddo ein harwain ni gyd drwy gyfnod anodd iawn dros y Nadolig hwn.”
‘Dyletswydd’
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad am gyflymu’r rhaglen frechu, dywedodd Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, fod yna ddyletswydd ar bawb sy’n gymwys i gael eu brechu.
Mae e wedi dweud hefyd ei fod yn credu nad oes angen mwy o gyfyngiadau os yw’r mwyafrif helaeth o bobol yn cael eu brechlynnau.
“Mae yna ddyletswydd ar bawb sy’n gymwys i gael eu brechu, ac mae gan y Llywodraeth Lafur gyfrifoldeb i ddarparu’r rhaglen yn gyflym.
“Mae cymdeithas rydd ac economi agored yn dibynnu ar hynny.”