Mae dros 2,000 o bobol bellach wedi llofnodi deiseb yn galw ar y Llywodraeth i ailystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr.

Nawr, mae’r Cynghorydd sefydlodd y ddeiseb yn awyddus i bobol barhau i leisio eu barn a nodi eu hanfodlonrwydd gyda phenderfyniad Llywodraeth Cymru.

Roedd y Cynghorydd Annwen Hughes yn trafod yn dilyn cyfarfod cyhoeddus a gafodd ei drefnu gan bobol leol cyn y penwythnos.

Aeth bron i 200 o bobol draw i Faes Awyr Llanbedr brynhawn dydd Gwener (Rhagfyr 10) i leisio eu barn a chlywed y sefyllfa ddiweddaraf.

“Dyw rhesymeg nac ymchwil yr adroddiad ar yr amgylchedd ddim yn taro deuddeg,” meddai Annwen Hughes.

“Does dim sylwedd na swmp i’r gwaith ac mae cwestiynau dybryd angen eu hateb am fanylder yr ymchwil wnaeth panel y Llywodraeth.”

Bu Cyngor Gwynedd, gyda chymorth arbenigwyr, yn paratoi gwaith ymchwil ar bob elfen o’r cynllun i adeiladu’r ffordd dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae amcangyfrifon Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd cost y gwaith hwnnw yn cyrraedd £1.67m.

‘Clec economaidd a chymunedol’

“Dwi’n anniddig iawn am yr ymchwiliad a gynhaliwyd ac yn teimlo i ni gael ein camarwain yn llwyr gan y Llywodraeth,” meddai Dyfrig Siencyn, arweinydd Plaid Cymru yng Ngwynedd.

“Dwi wedi cyfleu hynny i’r Prif Weinidog mewn llythyr.

“Mae bylchau yn yr ymchwiliad gan y Llywodraeth a diffyg cydnabod llawer o waith cefndir gan Gyngor Gwynedd.

“Er enghraifft, mae asesiad adolygu ffyrdd a yrrwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2021 yn dangos byddai gostyngiad o 3.6% yn lefel CO2 yn Llanbedr.

“Roedd y dystiolaeth yma yn y Datganiad Amgylcheddol oedd yn rhan o’r cais cynllunio llwyddiannus. Roeddem ni o’r farn bod cyfle gwirioneddol yma i gael enghraifft o ymarfer da, ac ymateb cadarnhaol i’r her amgylcheddol fyddai’n arwain at leihad, nid cynnydd, mewn allyriadau CO2 traffig.

“Byddai hefyd wedi cynnig gwelliant mewn ansawdd awyr rhanbarthol wedi i’r ffordd osgoi gael ei gwblhau. Ond, mae fel petai’r ymchwil yma wedi ei ddiystyru’n llwyr.

“Mae’r glec economaidd a’r glec gymunedol i bobl leol yn enfawr.

“Oherwydd yr elfennau yma a nifer o ffeithiau eraill sydd heb eu hystyried, dwi wedi holi ein tîm cyfreithiol i ystyried opsiynau cyfreithiol am ddilysrwydd penderfyniad y Dirprwy Weinidog, Lee Waters, i wyrdroi ymrwymiad cytundebol ariannol Llywodraeth Cymru i’r cynllun.”

‘Anfodlonrwydd’

Ychwanegodd Annwen Hughes ei bod hi’n “annog pobol i nodi eu hanfodlonrwydd ac arwyddo’r ddeiseb i gyfleu eu teimladau”.

“Mae’n bwysig i ni ddangos i Lywodraeth Cymru bod gwrthod datblygu’r ffordd yma’n cael effaith pellgyrhaeddol ar ein pentref a holl arfordir Ardudwy,” meddai.

“Dyw’r ffaith ein bod ni’n ddaearyddol bell o Gaerdydd ddim yn esgus i’r Llywodraeth anghofio amdanon ni.

“Dwi’n erfyn ar bawb yn y fro i ymateb ac yn annog eraill i lofnodi’r ddeiseb er mwyn i ni ddadlau’r achos yn gryf.”

“Atebion cynaliadwy”

“Rydym wedi ymgysylltu â’r cyngor drwy gydol y broses ac yn ôl cais y cyngor, cynhaliwyd adolygiad cyflym o ffordd fynediad Llanbedr cyn cynlluniau ffyrdd eraill,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym wedi ymrwymo i gydweithio â Gwynedd i ddatblygu atebion cynaliadwy i fynd i’r afael â’r materion sy’n ymwneud â thraffig yn y pentref a mynediad i’r maes awyr, fel y rhai a awgrymir yn adroddiad Cadeirydd y Panel.”