Mae cynghorydd ym Mhowys wedi ymddiswyddo o’r cabinet yn ystod cyfarfod, eiliadau ar ôl i gynghorwyr bleidleisio i gau ysgol yn ei ward.
Fe wnaeth cabinet Cyngor Sir Powys gyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 14) i drafod adroddiad ymgynghoriad i ad-drefnu ysgolion yn ardal Aberhonddu.
Roedd y Cynghorydd Iain McIntosh, aelod cabinet ar gyfer tai, cynllunio a datblygiad economaidd, yn gwrthwynebu’r cynlluniau, ond roedd wedi datgan budd ac yn methu â phleidleisio yn eu herbyn.
‘Penderfyniad dydw i’n methu â dirnad’
Yn dilyn pleidlais unfrydol i uno ysgol babanod ac ysgol iau Mount Street, yn ogystal ag ysgol gynradd Cradoc, gyda bwriad i symud i un adeilad newydd, penderfynodd Iain McIntosh ymddiswyddo.
“Mae hwn yn benderfyniad dydw i’n methu â derbyn, a dydw i ddim yn ei gydnabod fel penderfyniad gan y blaid na’r grŵp Ceidwadol,” meddai.
“Felly mae arna i ofn y bydda i’n ymddiswyddo o’r grŵp Ceidwadol ar unwaith, a fy rôl ar y cabinet hefyd.
“Mae hwn yn benderfyniad dydw i’n methu â dirnad, felly byddaf yn brwydro yn ei erbyn o’r pwynt hwn.”
Yn gynharach yn y cyfarfod, fe wnaeth McIntosh gyfeirio at y ffaith fod yr aelodau etholedig dros Frycheiniog a Maesyfed ym Mae Caerdydd a San Steffan, Fay Jones a James Evans, yn gwrthwynebu’r cynlluniau.
‘Gwerthfawrogi trafodaeth’
Mae’r Cynghorydd Rosemarie Harris, arweinydd y Cyngor, yn dweud ei bod hi eisiau trafod y penderfyniad yn bersonol gydag Iain McIntosh.
“Fel arweinydd y cabinet a’r cyngor, rydw i eisiau siarad gyda chi y tu allan i’r cyfarfod hwn,” meddai.
“Mae gennych chi lawer iawn i gynnig i’r cyngor hwn ac rwy’n gofyn i chi adlewyrchu ar hynny.
“Rwy’n deall bod teimladau’n gryf heddiw, a byddwn yn gwerthfawrogi trafodaeth.”
Ad-drefnu ysgolion
Mae ad-drefnu ysgolion yn y sir wedi cael ei hyrwyddo gan y Cynghorydd Phyl Davies, yr aelod cabinet ar gyfer addysg, fel rhan o strategaeth y Cyngor ar gyfer addysg rhwng 2020 a 2030.
Mae’r cynlluniau a gafodd eu trafod am weld ysgol gynradd newydd ar gyfer 360 o ddisgyblion ym Mhenlan ac ar hen safle Ysgol Uwchradd Aberhonddu.
Cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal rhwng Chwefror 25 a Mai 12 eleni, a byddai’r ysgol gynradd newydd yn digwydd erbyn Medi 2023.
Byddai’r adeilad newydd ym Mhenlan yn agor un ai yn 2025 neu yn 2026.
Byddai’r holl gynlluniau yn ne’r sir yn costio £32m, gyda bwriad i agor ysgol gydol oes “flynyddoedd i lawr y lein”, yn ôl un cynghorydd.
Ysgolion Sir Drefaldwyn
Roedd bwriad i gynnal pleidlais ar y cynlluniau i gau tair ysgol gynradd yn Sir Drefaldwyn yn yr un cyfarfod heddiw, gyda disgwyl y byddai’r Cynghorydd Phyl Davies yn argymell cadw’r ysgolion hynny ar agor.
Yn ddirybudd, cafodd y bleidlais honno ynglŷn ag Ysgolion yr Eglwys yng Nghymru yn Llangedwyn a Llanfechain, yn ogystal ag Ysgol Gynradd Bro Cynllaith yn Llansilin ei gohirio.
Mae’n debyg y bydd y cynlluniau hynny, felly, yn cael eu trafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.