Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobol i ddefnyddio’r profion llif unffordd sydd ganddyn nhw cyn gofyn am ragor.
Dydi hi ddim yn bosib cael profion llif unffordd wedi’u danfon i gartrefi ar hyn o bryd (dydd Mawrth, Rhagfyr 14), yn ôl gwefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi pwysleisio ei bod hi’n bosib cael y profion o fferyllfeydd.
Trwy wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae modd cael profion llif unffordd wedi’u danfon i gartrefi yng Nghymru.
Mae gweinidogion Cymru a Lloegr yn dweud nad oes problemau gyda’r cyflenwad, ond mae gweinidogion San Steffan yn dweud bod problemau gyda’r gwaith o’u danfon a’u dyrannu nhw.
Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobol i gymryd profion llif unffordd cyn cymysgu ag eraill.
Yn ôl gwefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae apwyntiadau ar gyfer profion PCR yn “brin iawn” yn ne Morgannwg hefyd.
Am gyfnod fore heddiw, doedd dim apwyntiadau ar gael o gwbl mewn rhai rhannau o Loegr.
‘Gweddol hyderus’
Yn ystod cynhadledd i’r wasg heddiw, dywedodd Eluned Morgan fod gan Gymru tua 21.3m o brofion llif unffordd ar gael mewn warysau.
“Rydyn ni’n gweithio allan, o ran y galw, fod 900,000 yn cael eu defnyddio bob wythnos,” meddai.
“Rydyn ni’n gwybod fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gofyn am 200m o brofion llif unffordd ychwanegol, a byddwn ni’n cael cyfran o’r rheiny.
“Felly rydyn ni’n weddol hyderus o ran nifer y profion llif unffordd sydd ar gael i ni.
“Efallai bod problem wedi bod ddoe gyda phobol yn gweld cynnydd sydyn.
“Rydyn ni’n gofyn i bobol ddefnyddio’r profion llif unffordd sydd ganddyn nhw yn eu cartrefi gyntaf cyn mynd allan i ‘nôl mwy.
“Ond gallwch gael y profion llif unffordd rhain o’ch fferyllfa leol, mae 97% o fferyllfeydd Cymru wedi cytuno i rannu’r profion llif unffordd.”
Dim newid i hunanynysu
Mae canllawiau newydd yn Lloegr yn dweud y dylai pobol sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn gael prawf llif unffordd bob diwrnod am wythnos os ydyn nhw wedi bod mewn cysylltiad agos ag achos positif o Covid.
Dydi Llywodraeth Cymru ddim yn ystyried mabwysiadu’r un canllawiau, ond yn parhau i ofyn i bawb sy’n cael eu hadnabod fel cysylltiadau agos i rywun ag amrywiolyn Omicron hunanynysu am ddeng niwrnod.
“Yn amlwg, byddwn ni’n parhau i adolygu hyn wrth i ni weld y niferoedd yn cynyddu o fewn ein cymunedau,” meddai Eluned Morgan.
“Ar y funud, rydyn ni dal yn y cam atal [lledaeniad] – does gennym ni ond 30 achos [o Omicron] yng Nghymru.
“Felly byddwn ni’n parhau gyda’r cam hwn am gyn hired â phosib, ond yn amlwg, gallai’r sefyllfa newid yn sydyn iawn a byddwn yn addasu pan ac os yw’r sefyllfa’n codi.”
“Dim problem” gyda’r cyflenwad
Mae Dominic Raab, Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn mynnu nad prinder profion llif unffordd sy’n gyfrifol am y broblem wrth geisio archebu prawf oddi ar wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Dydi’r broblem ddim gyda’r galw a’r cyflenwad, mae’r broblem gyda dyrannu, neu eu danfon,” meddai wrth raglen BBC Breakfast.
Ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 13), dywedodd Sajid Javid, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, fod cyfyngiadau ar archebu profion ar-lein yn gysylltiedig â’r capasiti i’w danfon.
Dywedodd eu bod nhw wedi dod i gytundeb newydd gydag Amazon ac eraill er mwyn eu danfon.
Mae disgwyl i Amazon ddechrau gwerthu profion PCR rhatach i deithwyr hefyd ac, yn ôl adroddiadau, gallai Amazon gael eu hychwanegu at restr Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddarparwyr cymwysedig.