Bydd diffibrilwyr newydd yn cael eu gosod mewn 40 o leoliadau ar draws y gogledd.

Daw hyn yn sgil cynllun ar y cyd rhwng Menter Môn ac elusen y Gwasanaeth Iechyd yn y gogledd, Awyr Las.

Y bwriad yw eu gosod nhw mewn cymunedau arfordirol ac anghysbell, i sicrhau bod yr offer a allai achub bywydau o fewn cyrraedd iddyn nhw ac mewn ardaloedd lle mae achosion o drawiadau ar y galon yn uchel.

Cafodd y 40 lleoliad eu dewis ar sail ymgynghoriad â grwpiau cymunedol, gan gynnwys gwasanaethau’r RNLI a gwylwyr y glannau, sydd wedi galw am fwy o ddiffibrilwyr ar gael mewn porthladdoedd.

Mae’n debyg mai dyma un o’r cynlluniau mwyaf o’i fath i dargedu cymunedau’r gogledd, ac mae’n dod ar ôl galwadau diweddar i geisio sicrhau bod mwy o’r offer ar gael mewn cymunedau ledled Cymru.

‘Gwneud y byd o wahaniaeth’

Prosiect FLAG, sy’n cael ei redeg gan Fenter Môn, sydd wedi cydweithio gydag Awyr Las i drefnu’r diffibrilwyr newydd.

“Yn aml iawn, mi all y dyfeisiau hyn olygu osgoi marwolaeth pan fydd person yn dioddef trawiad ar y galon,” meddai Craig Hughes, rheolwr y prosiect.

“Felly roedden ni’n awyddus iawn i gymryd rhan a gweithio gyda Cadwch Curiadau i wireddu’r cynllun hwn.”

Tomos Hughes, Swyddog Cymorth Mynediad Cyhoeddus at Diffibriliwr Gogledd Cymru, fu’n arwain ar y gwaith ymgynghori.

“Pan mae amser yn brin, gall y dyfeisiau hyn wneud byd o wahaniaeth,” meddai.

“Mae gan bob diffibriliwr ofalwr penodol a byddwn hefyd yn sicrhau ei fod wedi’i gofrestru ar gronfa ddata’r British Heart Foundation.

“Mae hyn yn golygu fod y diffibrilwyr yn weladwy i Wasanaeth Ambiwlans Cymru – felly pan fydd rhywun yn ffonio 999 mewn argyfwng ac angen diffibriliwr, gall y gwasanaeth eu cyfeirio atyn nhw.”

Rhwydwaith

Bydd yr holl ddiffibrilwyr newydd yn cael eu hychwanegu i’r rhwydwaith cenedlaethol, sydd wedi eu cofrestru ar gronfa ddata Sefydliad Prydeinig y Galon.

Roedd galwadau diweddar ar gymunedau ledled Cymru i gofrestru diffibrilwyr ar y rhwydwaith hwnnw.

Mae Gillian Pleming, Rheolwr Gwasanaeth Cydlynu Gwasanaethau Meddygol Brys ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn Llanfairfechan, wedi ategu pwysigrwydd y rhwydwaith.

“Mae’r gallu i adnabod a chyfeirio galwyr yn gyflym at diffibriliwr cyfagos yn gwneud gwahaniaeth mawr yng nghyfraddau goroesi ataliadau’r galon y tu allan i’r ysbyty,” meddai

“Mae cronfa ddata’r BHF yn adnodd amhrisiadwy i ni ac rydym yn croesawu’r ychwanegu’r 40 diffibriliwr newydd yma yng ngogledd Cymru.”

Fe ddechreuodd y gwaith o osod y dyfeisiau ym mis Tachwedd a bydd y cyfan wedi’i gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.

Undeb Rygbi am osod diffibrilwyr ymhob clwb rygbi yng Nghymru

“Pe bai un bywyd yn cael ei achub drwy’r cynllun, yna byddai’n fonws mawr i ni,” meddai Undeb Rygbi Cymru

Ymgyrchydd yn galw am ragor o hyfforddiant CPR a diffibrilwyr yng Nghymru

Gwern ab Arwel

“Mae llefydd fel Ffrainc, Swistir a Norwy efo diffibs rownd bob cornel, ac mae’r ffigyrau o bobol sy’n byw ar ôl cael trawiad lot uwch”