Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau diffibrilwyr ar draws y wlad.

Daw hyn ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod degau o filoedd o ddifibrilwyr yn anhysbys i dderbynwyr galwadau 999, gan nad ydyn nhw ar gofrestr ganolog y gwasanaeth.

Does felly dim modd iddyn nhw gyfeirio pobol sy’n ffonio 999 at y diffibrilwyr hynny, ac o bosib achub bywyd rhywun sy’n cael ataliad ar y galon.

Mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio bod rhaid i sefydliadau gofrestru ddiffribilwyr ar The Circuit pan maen nhw’n cael eu gosod.

Mae galwadau i gynyddu’r nifer o ddiffibrilwyr yng Nghymru wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar ar ôl achosion Christian Eriksen, chwaraewr pêl-droed Denmarc, ac Alex Evans, chwaraewr rygbi a fu farw yn ystod gêm.

Galwadau’r Ceidwadwyr

Yn ôl Russell George, Aelod Ceidwadol o’r Senedd, mae angen gwneud mwy i sicrhau bod y gwasanaethau brys yn ymwybodol o’r holl ddiffibrilwyr yng Nghymru.

“Rydyn ni wedi gweld wythnos ddiwethaf pa mor hanfodol y gall diffibriliwr fod, gydag un yn cael ei ddefnyddio wrth achub cefnogwr pêl-droed a gwympodd yn ystod gêm yr Uwchgynghrair [yn Lloegr] ddydd Sul yn Newcastle,” meddai.

“Rydyn ni wedi galw ers tro am osod yr offer pwysig hyn sy’n achub bywyd mewn clybiau chwaraeon, a lleoliadau ledled Cymru.

“Fodd bynnag, dydy hi ddim yn ddigon i gael diffibrilwyr yn eu lle – mae angen i ni eu gweld nhw’n cael eu cofrestru gyda’r Gwasanaeth Iechyd, darparu hyfforddiant ychwanegol i dderbynwyr galwadau, a chodi ymwybyddiaeth o’u lleoliadau fel ein bod ni ddim yn colli bywyd arall yn ddiangen.

“Rwy’n gobeithio gweld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd i ddod o hyd i’r holl ddiffribilwyr ledled Cymru a sicrhau bod arian ar gael ar gyfer unrhyw rai ychwanegol sydd eu hangen.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Ar 15 Medi, fe gyhoeddodd Gweinidog Iechyd Eluned Morgan bod £500,000 yn rhagor wedi ei ddarparu i brynu bron i 500 o ddiffibrilwyr newydd.

Fe bwysleisiodd hi rai o’r meini prawf sydd angen eu bodloni wrth i sefydliadau osod diffibrilwyr, yn enwedig bod angen eu cofrestru nhw ac angen gwarcheidwad penodol arnyn nhw.

“Mae cymunedau a sefydliadau sydd eisoes yn meddu ar ddiffibrilwyr yn cael eu hannog i’w cofrestru ar The Circuit,” meddai.

“Mae mwy na 5,420 wedi’u cofrestru [yn barod].

“Ond dim ond ychydig dan 50% o’r diffibrilwyr hyn sydd wedi’u cofrestru â gwarcheidwaid er mwyn gofalu’n rheolaidd bod pethau fel batris a phadiau yn gweithio’n iawn.

Mae Achub Bywydau Cymru yn darparu grant gwerth £50,000 i Wasanaeth Ambiwlans Cymru i adfer diffibrilwyr nad ydynt mwyach yn addas i’r diben.”

Buddsoddiad £500,000 am ddiffiblwyr yn “annigonol” medd y Ceidwadwyr Cymreig

Daw’r buddsoddiad yn dilyn nifer o bobl proffil uchel yn cael ataliadau ar y galon ym maes chwareon dros yr haf

Ymgyrchydd yn galw am ragor o hyfforddiant CPR a diffibrilwyr yng Nghymru

Gwern ab Arwel

“Mae llefydd fel Ffrainc, Swistir a Norwy efo diffibs rownd bob cornel, ac mae’r ffigyrau o bobol sy’n byw ar ôl cael trawiad lot uwch”