Bydd Brenhines Lloegr yn ymwneud â dyletswyddau ysgafn yn unig wrth iddi orffwys a dod at ei hun ar ôl aros am noson mewn ysbyty ganol yr wythnos.
Mae’r Frenhines 95 oed yn aros yng Nghastell Windsor wedi iddi dderbyn cyngor i beidio ymweld â Gogledd Iwerddon yr wythnos hon, wedi iddi ddod i agor y Senedd yng Nghaerdydd yr wythynos ddiwethaf.
Fe ddychwelodd i’w chastell yn Berkshire fore Iau ar ôl noson yn ysbyty’r Brenin Edward VII yn Llundain, ac mae hi’n parhau mewn “hwyliau da”.
Bydd ei dyletswyddau ysgafn yn cynnwys darllen papurau polisi a dogfennau Cabinet Llywodraeth Prydain, crynodeb o ddigwyddiadau San Steffan, a negeseuon gan y Swyddfa Dramor.
Fe gafodd y trip i’r ysbyty ei gadw yn gyfrinach, ond fe dorrodd The Sun y stori a bu yn rhaid i swyddogion Palas Buckingham ei gadarnhau bnawn Iau.
Dyma’r tro cyntaf i’r Frenhines dreulio noson mewn ysbyty ers 2013.