Mae adroddiadau heddiw bod golygydd gwleidyddol y BBC, Laura Kuenssberg, yn rhoi’r gorau i’r swydd.
Dywedodd The Guardian bod Kuenssberg mewn trafodaethau i ymuno â rhaglen Today ar BBC Radio 4, gan adael ei swydd bresennol ar ôl chwe blynedd.
Daw hyn wrth i’r BBC ad-drefnu llawer o’u staff darlledu, ac mewn cyfnod o ansicrwydd ynglŷn â dyfodol y ffi drwydded.
Mae Laura Kuenssberg wedi bod yn ffigwr dadleuol yn ystod ei chyfnod yn olygydd gwleidyddol – cyfnod sydd wedi cynnwys refferendwm Brexit a dau etholiad cyffredinol.
Mae hi wedi wynebu cyhuddiadau o ragfarn gan sawl un ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn ystod ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd, ac yn dilyn pryderon dros ei diogelwch, roedd yn rhaid iddi gael ei gwarchod wrth fynychu cynadleddau pleidiau yn ddiweddar.
Golygydd gwleidyddol newydd?
Yr wythnos hon, dywedodd golygydd Gogledd America’r gorfforaeth, Jon Sopel, ei fod yn dychwelyd i rôl arall yn y Deyrnas Unedig – o bosib swydd y golygydd gwleidyddol – ar ôl saith mlynedd dramor.
“Ychydig o newyddion personol: Dw i’n gadael…” meddai Sopel ar gyfryngau cymdeithasol.
“Ar ôl 7+ blynedd wych yn D.C., 3 llyfr, 3 arlywydd (un a wnaeth gadw fi’n brysurach na’r gweddill), mae’n amser dychwelyd i’r Deyrnas Unedig ac i long gartref y BBC.”
“Rydw i’n cynllunio gwyliau hir. Llyfr newydd, efallai – ond yn gyntaf oll mynd i Awstralia i weld ein hwyres gyntaf, Eliza.”
Dweud dim
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC nad ydyn nhw am drafod y sibrydion.
“Rydyn ni’n hysbysebu rôl golygydd Gogledd America yn fewnol ar hyn o bryd, a bydd y rôl yn mynd trwy’r broses recriwtio arferol,” meddai.
“Ar hyn o bryd, mae hi ychydig yn rhy gynnar i ddyfalu canlyniad hynny, heb sôn am swyddi eraill sydd ddim yn wag.”