Roedd ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd 2020 yn “ryddhad”, meddai Carwyn Eckley wrth siarad â golwg360.
Dyna’r tro olaf i’r newyddiadurwr allu cystadlu yn yr Urdd, ac roedd yn destun balchder “cyrraedd y nod” ar ôl dod yn ail deirgwaith o’r blaen.
Bu’n rhaid gohirio’r gwobrwyo ar gyfer cynnyrch llenyddol ar gyfer Eisteddfod 2020 oherwydd y pandemig, a dyna pam bod yr enillwyr ond yn cael eu datgelu rŵan.
Awdl dan y teitl Ennill Tir yn trafod tlodi plant, a thlodi plant yng Nghymru yn benodol, oedd y gwaith buddugol gan Carwyn.
Daeth 13 cerdd i law’r beirniaid, Eirug Salisbury a Peredur Lynch, ond mewn “cystadleuaeth agos” cerdd “fedrus, feiddgar a dyfeisgar” Carwyn, sy’n dod o Benygroes, ddaeth i’r brig.
Golyga hynny bod dwy o brif wobrau’r Urdd eleni yn mynd i’r un pentref yn Nyffryn Nantlle, wedi i Megan Angharad Hunter ennill y Goron nos Lun.
“Syfrdanol”
Drwy edrych ar benawdau newyddion, a sylwi bod traean o blant Cymru’n byw mewn tlodi ar y pryd, gafodd Carwyn Eckley y syniad o farddoni am dlodi plant.
“Hwnna oedd yr ysgogiad mawr, roeddwn i’n meddwl bod hwnna’n eithaf syfrdanol fel ystadegyn bod traean o blant o’n cwmpas ni’n byw mewn tlodi yn yr ugeinfed ganrif ar hugain,” meddai.
Pan gyflwynodd Carwyn Eckley ei gerdd i’r Urdd ym mis Mawrth 2020, roedd yn gadael swydd gyda Newyddion S4C i weithio ar raglen Y Byd ar Bedwar gydag ITV Cymru.
“Yn amlwg, roeddwn i’n cadw llygad ar benawdau newyddion, ac roedd hwnna’n rhywbeth wnaeth daro fi’n fwy na dim byd arall.
“Felly dyna pam mai hynny yw trywydd y gerdd.
“Dydi o ddim yn cael llawer o sylw. Dw i’n ymwybodol hefyd, dw i’n lwcus, dydw i ddim wedi dioddef o dlodi plant fy hun felly dw i’n gwybod fy mod i ddim yn canu o brofiad.
“Ond eto, roeddwn i’n teimlo ei fod o’n rhywbeth pwysig i dynnu sylw ato fo.”
O'r diwedd, rydym yn barod i ddatgelu Prifardd Eisteddfod yr Urdd 2020/21. ?
Drumroll, please! And our final main winner is… pic.twitter.com/J8DFentG0K
— Eisteddfod yr Urdd (@EisteddfodUrdd) October 21, 2021
Cynganeddion yn “clecian”
Yn ôl y bardd Iestyn Tyne, a enillodd Cadair Eisteddfod yr Urdd yn 2019, dyma’r tro cyntaf i awdl – sef cerdd mewn cynghanedd – ddod i’r brig yn y gystadleuaeth ers 2014, pan enillodd Gruffudd Antur yn y Bala.
Yn ôl Carwyn Eckley, roedd canu yn y mesurau caeth, “a dweud pethau ysgytwol”, wastad yn nod.
“O fod wedi stydio’r Gymraeg yn y brifysgol, roeddwn i wastad yn cael fy nenu at y canu caeth, a chynganeddion, ac edmygu’r beirdd yma i gyd sy’n dweud eu dweud o fewn y mesurau caeth – a’i wneud o, nid yn unig i wneud synnwyr, ond i ddweud pethau ysgytwol a rhywbeth sy’n wir am ein bywyd bob dydd,” eglura Carwyn.
“Roedd hwnna’n rhywbeth roeddwn i eisio rhyw fath o anelu ato fy hun.
“Mae o’n rhyw fath o puzzle i fi, ac mae unrhyw un sy’n dechrau allan yn cynganeddu yn gwybod dydi o ddim yn hawdd, a ti’n gorfod baglu llwyth o weithiau cyn dy fod di’n cyrraedd rhyw fath o safon lle mae pethau’n gwneud sens, i ddechrau efo’i, cyn bod o’n dda.
“Dyna oedd yn fy nenu i, yr ysfa yma i drio profi dy hun a gwella dy hun, a gweld lle mae o’n mynd â chdi.
“Mae o’n dod yn fwy naturiol rŵan, ti’n clywed ambell air ac mae o’n clecian yn dy ben di. Fel yna mae o’n digwydd, a ti methu’i droi o off wedyn!
“Mae pethau yn dod yn haws, ond eto wedyn, lot o’r gwaith, a dw i ddim yn meddwl bod pobol yn sylwi hyn, ydi cyboli a mynd drwy’r gerdd i dacluso hi.
“Fyswn i’n dweud mai hwnna ydi’r rhan fwyaf o’r amser mae rhywun yn ei dreulio ar gerdd er mwyn gwneud hi’n safonol, a’r gerdd wyt ti eisio ei dweud.”
“Rhyddhad”
Roedd hi’n “rhyddhad” ennill y Gadair, meddai Carwyn Eckley.
“Mae o’n swnio’n od, ond hwnna oedd y tro olaf roeddwn i’n cael cystadlu yn yr Urdd,” meddai.
“Roeddwn i wedi cystadlu ychydig o weithiau o’r blaen, ac wedi cael ail.
“Yn amlwg, [dw i’n teimlo] balchder a hapusrwydd fy mod i’n cyrraedd y nod.”
Yn ei feirniadaeth, dywedodd Eurig Salisbury ei fod yn gobeithio y bydd Carwyn Eckley yn mynd ymlaen i gyhoeddi ei waith.
Does gan Carwyn Eckley “ddim cynllun mawr” o ran y barddoni, meddai, ond mae’n parhau i fod yn rhan o dîm Talwrn Dros yr Aber, Caernarfon.
“Dim byd mawr ar y gweill tan y gyfres nesaf, dw i ddim yn meddwl.
“Os fysa yna rywun yn gwahodd fi i wneud cyfrol fyswn i’n sicr efo diddordeb. Dw i’n edmygu pobol sy’n hunangyhoeddi, ond mae o’n anodd ar yr un pryd.”
Bydd y gwaith sy’n dod i’r brig yn gweld golau dydd drwy gyhoeddi Deffro – y cyfansoddiadau ar eu newydd wedd, sydd allan heddiw (22 Hydref).
Darllen mwy: