Cylch o ganeuon yn clodfori Dyffryn Clwyd ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Gyfansoddi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2020-21.
Mae alawon buddugol Ioan Wynne Rees yn seiliedig ar eiriau am yr ardal gan awduron a beirdd y fro, ac roedd yn naturiol iddo edrych ar hanes ei ardal enedigol drwy’r cerddi, meddai wrth golwg360.
‘Caneuon Clodfawr: Pum Cân o Glwyd i Denor’ yw enw’r gwaith buddugol, sy’n osodiadau o eiriau I.D Hooson, Gwilym R. Jones ac R. Williams Parry.
Drwy gydol yr wythnos hon, mae’r Urdd yn gwobrwyo’r gwaith buddugol ddaeth i law ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2020.
Bu’n rhaid gohirio’r Eisteddfod honno yn Ninbych ddwywaith, ond roedd hi’n “golygu lot” i Ioan Wynne Rees, sy’n dod o bentref Cyffylliog ger Rhuthun, ddod i’r brig mewn Eisteddfod oedd i fod i gael ei chynnal yn Sir Ddinbych.
“Mae o’n cliché i ddweud bod o’n annisgwyl, ond roedd hwn wir yn annisgwyl jyst oherwydd bod yna gymaint o amser wedi bod ers i mi gyflwyno’r gwaith,” meddai Ioan Wynne Rees, sy’n byw ym Mangor a newydd orffen gradd M.A. mewn Cerddoriaeth yn canolbwyntio ar ganu roc Cymraeg.
“Roedd cael yr alwad yn dweud ‘Ti wedi dod i’r tri uchaf’, roeddwn i’n meddwl ‘Tri uchaf i be?’… Ac wedyn fe wnes i gofio, wrth gwrs, cafodd yr Eisteddfod ei chanslo oherwydd Covid.
“Annisgwyl… i’w ddiffinio fo mewn gair.”
Dyffryn Clodfawr Clwyd
Erbyn hyn, mae Ioan Wynne Rees yn gweithio fel tiwtor gyda Gwasanaethau Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn, ac yn gerddorol, cyfansoddwyr Cymraeg oedd y brif ysbrydoliaeth i’r cylch.
“Ond mae gen ti’n ardal enedigol i, sef Dyffryn Clwyd, mae hwnna’n rhan mawr o’r Cylch,” meddai.
“Y tirlun, mae gen ti ôl bryniau Clwyd yn gyntaf, a’r beirdd dw i wedi’u defnyddio, maen nhw un ai’n dod o Ddyffryn Clwyd, neu wedi aros neu fyw yn Nyffryn Clwyd.
“Roeddwn i’n licio edrych mewn i hanes y cerddi, felly roedd y cerddi’n ysbrydoliaeth.
Mae enw’r casgliad, ‘Caneuon Clodfawr’, yn dod o’r dywediad ‘Dyffryn Clodfawr Clwyd’.
“Yn ganol sgwennu’r cylch, fe wnaeth Nain farw yn anffodus, felly dw i’n meddwl bod hynna’n rhywbeth oedd wedi gwneud i fi feddwl.
“Mae un o’r cerddi, ‘Ffarwel i’r Haf’ gan Gwilym R. Jones, yn ymdrin â marwolaeth so roedd hynny wedi gwneud i mi ymroddi lot o fy nheimladau ar y pryd mewn i’r darn.
“Dw i wedi cyflwyno’r casgliad er cof am Nain, felly roedd hynny’n golygu lot i mi ac wedi fy ysbrydoli i’n fawr.”
“Pedwar o fawrion”
Mae’r cerddi sy’n cynnig y geiriau i’r alawon yn perthyn i’r ganrif ddiwethaf, ac mae alawon wedi cael eu cyfansoddi ar gyfer rhai ohonyn nhw o’r blaen.
“Dw i wedi cael fy magu yn lot o’r gerddoriaeth sydd wedi cael ei osod i’r cerddi yma, Hogia’r Wyddfa ac artistiaid eraill fel yna,” meddai Ioan Wynne Rees.
“Roedd o’n rhywbeth naturiol imi ddewis cerddi oedd yn bodoli ers tro.
“Roedd o’n naturiol i fi edrych mewn i hanes yr ardal drwy’r cerddi yma.”
Robat Arwyn, Gareth Glyn, Meirion Williams a Dilys Elwyn-Edwards yw prif ddylanwadau cerddorol Ioan Wynne Rees – “y pedwar o fawrion”.
A dyma fo o'r diwedd: Enillydd Medal Gyfansoddi Eisteddfod yr Urdd 2020-21. Llongyfarchiadau mawr! ?
And the Composer Medal goes to… pic.twitter.com/TOrLr6vcWI
— Eisteddfod yr Urdd (@EisteddfodUrdd) October 19, 2021
Cafodd un o’r darnau buddugol ei ganu gan y tenor Dafydd Wyn Jones, a’i ddarlledu fel rhan o’r clip gan yr Urdd yn cyhoeddi’r enillydd.
“Roeddwn i wedi’i gyfansoddi fo ar gyfer Dafydd Wyn Jones, roedd ei lais o wedi bod yn fy meddwl i tra’n cyfansoddi felly roeddwn i wedi’i gyfansoddi fo i siwtio Dafydd, ella,” esboniodd Ioan Wynne Rees.
“Dw i’n gwerthfawrogi’n fawr ei fod o wedi dod ymlaen a chanu un gân ar gyfer y darllediad ddoe, mae o wedi gwneud job dda ohoni.”
Bydd y gwaith sy’n dod i’r brig yn ystod yr wythnos yn gweld golau dydd drwy gyhoeddi Deffro – y cyfansoddiadau ar eu newydd wedd – a fydd allan ddydd Gwener (22 Hydref).
Fe fydd posib darllen sgyrsiau gyda’r prif enillwyr ar golwg360 drwy gydol yr wythnos hefyd.