Mae cerddor a wrthododd “eistedd a chrio” oherwydd yr argyfwng tai wedi ysgrifennu cân “i greu newid cadarnhaol”.
Bydd Catrin O’Neill yn rhyddhau ei sengl newydd sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng tai ddydd Gwener (22 Hydref)
Mae Catrin yn byw yn Aberdyfi – cymuned lle mae dros 60% o’r tai yn ail gartrefi neu’n dai gwyliau.
Mae tai fforddiadwy yn hynod brin a phobl leol yn gorfod symud o’r ardal er mwyn prynu tŷ.
Yr un yw’r hanes mewn sawl ardal arall o Gymru, a dyma’r ysbrydoliaeth ar gyfer y gân.
Anobeithiol
“O’n i’n arfer teimlo mor anobeithiol am yr hyn yr oeddwn yn ei weld yn digwydd i’n pentref hardd . . . ond rwy’n gwrthod eistedd a chrio am hyn mwyach.
“Yn lle hynny rwyf am ddefnyddio fy nghrefft a’m hegni i greu newid cadarnhaol.”
Yn ystod y cyfnod clo daeth Catrin i gysylltiad â Steve a Clara Wilson ac ynghyd â chriw o bobl eraill, aethant ymlaen i sefydlu’r Siarter Cyfiawnder Cartrefi.
Mae’r siarter yn ymgyrchu dros yr argyfwng tai presennol.
Mae ‘Tyddyn y Gwin’ – y geiriau gan Robat Idris a’r gerddoriaeth gan Catrin ei hunan, yn tynnu sylw penodol at ddeiseb Senedd y Siarter Cyfiawnder Cartrefi.
Y gobaith yw y bydd y ddeiseb yn denu 5,000 o lofnodion cyn 2 Rhagfyr.
Pryderu
“Ymgais ar ffurf dameg ydi geiriau’r gân i roi blas o’r hyn sydd wedi digwydd i ni yn y Gymru wledig dros y degawdau diwethaf,” meddai Robat Idris.
“Gweld ein cymunedau yn chwalu, ein plant yn gadael a’n tai yn mynd allan o’n dwylo – proses sydd wedi cyflymu yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, gan wneud i ni bryderu yn fwy nag erioed am ddyfodol ein hiaith a’n cymunedau.
“Does yna ddim dadansoddi yma, dim cynnig atebion, dim ond cymryd enw dychmygol Tyddyn y Gwin i gynrychioli dadfeiliad mwy eang – rhieni oedrannus efo’u hatgofion a’r plant ym mhedwar ban byd.
“Yn y diwedd does yna ddim byd ar ôl i ddangos fod yna Gymry wedi byw yno erioed.
Ysbrydoledig
“Daeth cenedlaethau o warchod lle a thir ac iaith i ben mewn amrantiad pan werthwyd Tyddyn y Gwin dan y morthwyl: ‘Arian mewn waled fwy marwol na bwled/Rose Cottage yw Tyddyn y Gwin.’”
Ychwanegodd Catrin: “Mae wedi bod yn daith ddiddorol dros y flwyddyn ddiwethaf.
“O deimlo mor ynysig a heb obaith, i gwrdd â phobl ysbrydoledig ac angerddol a chreu’r Siarter, yna allan o hynny gweld y gân hon yn dod yn fyw, cân sydd wedi ei hysbrydoli gan y cariad a rannwn dros ein cymunedau a’n hiaith.”