Mae’r cerddor a’r cyflwynydd radio Georgia Ruth wedi ei tharo’n wael gyda Covid-19.

Oherwydd effeithiau’r firws, mae hi wedi gorfod canslo rhai o’i hymddangosiadau dros y pythefnos diwethaf.

Bu’n rhaid iddi dynnu allan o ŵyl Focus Wales yn Wrecsam ddydd Sadwrn, 9 Hydref, gyda’r artist, Reuben’s Daughters, yn gorfod arwain y noson yn ei lle.

Doedd hi chwaith ddim yn gallu cyflwyno ei rhaglen ar BBC Radio Cymru neithiwr (19 Hydref), bron i bythefnos ar ôl Focus Wales.

Dywedodd yr artist, sy’n 33 oed, ar ei thudalen Twitter ei bod hi wedi derbyn dau ddos o’r brechlyn, a’i bod hi’n cymryd “bach yn hirach” nag oedd hi wedi gobeithio i ddod dros y salwch.

Roedd sawl un yn dymuno gwellhad buan iddi mewn ymateb i’r post.

Mae Georgia Ruth wedi rhyddhau tri albwm yn ystod ei gyrfa hyd yn hyn, sef Week of Pines (2013), Fossil Scale (2016), a’r diweddaraf Mai (2020).

Fe enillodd hi’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2013, am ei halbwm gyntaf, a chael ei henwebu am yr un wobr gyda’r ddwy albwm dilynol.

Mae’r cerddor o Aberystwyth hefyd wedi gweithio gydag artistiaid fel Manic Street Preachers, The Gentle Good a Gwyneth Glyn, yn ogystal â chael ei chwarae sawl gwaith ar BBC Radio 1 a BBC Radio 6 Music.

Mae hi’n briod gyda’r cerddor Iwan Huws o’r grŵp Cowbois Rhos Botwnnog.