Mae’r Urdd wedi cyhoeddi cyfansoddiadau ychydig yn wahanol i’r arfer eleni, gan gomisiynu awdur ac arlunydd ifanc i wneud y gwaith.

Deffro yw teitl cyfrol y cyfansoddiadau ar ei newydd wedd, a bellach mae’r casgliad o lenyddiaeth buddugol y brifwyl ar gael mewn siopau llyfrau lleol ac ar ffurf e-lyfr.

Drwy gydol yr wythnos, mae’r mudiad wedi datgelu holl enillwyr y prif wobrau, yn ogystal â chystadlaethau cyfansoddi eraill, a oedd i fod i gael eu gwobrwyo yn Eisteddfod yr Urdd 2020. Ni ddigwyddodd y steddfod honno oherwydd y pandemig.

Oherwydd bod dim Eisteddfod arferol eleni, roedd y trefnwyr yn teimlo bod cyfle i ailwampio’r cyfansoddiadau, gan drefnu’r gyfrol yn ôl themâu yn hytrach na fesul cystadleuaeth.

Fe wnaethon nhw gomisiynu dau o gyn-enillwyr eu prif wobrau i wneud yr ailwampio – Efa Lois o Aberystwyth, Prif Artist Eisteddfod yr Urdd 2018, a Brennig Davies o Fro Morgannwg, Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd 2019.

“Arddangos talent y genhedlaeth nesaf”

Fe soniodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Adran Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau, ychydig am Deffro.

Clawr cyfrol Deffro

“Ar ôl misoedd o waith cynllunio, braf yw cael cyhoeddi’r gyfrol gyfoes hon gyda chefnogaeth y Cyngor Llyfrau,” meddai.

“Mae darluniau hyfryd Efa a’r ffordd mae Brennig wedi ymdrin â’r cynnwys, wir yn dod a gwaith yr enillwyr yn fyw i’r darllenwr.

“Mae meithrin talent pobl ifanc wrth galon gwaith Eisteddfod yr Urdd, a dyma gyfrol sy’n arddangos talent y genhedlaeth nesaf o lenorion.

“Mynnwch gopi a mwynhewch!”

“Capsiwl o gyfnod cyn-COVID”

“Braint fawr oedd cael fy ngwahodd i olygu’r gyfrol yma, a phleser pur oedd y gwaith golygyddol,” meddai Brennig.

“Ges i’r cyfle i ddarllen a mwynhau straeon, cerddi, dramâu ac areithiau gan rai o lenorion ifanc mwya’ talentog Cymru – pobl dwi’n falch iawn o gael eu galw’n gyfoedion.

“Er bod y darnau yma’n gapsiwl o gyfnod cyn-COVID, maen nhw’n delio â themâu oesol – cariad, colled, cenedl, ieuenctid, byd natur, a mwy – sydd, erbyn hyn, yn teimlo’n fwy perthnasol fyth.

“Braf, mewn ffordd, oedd cael gweld bod rhai pethau’n newid, ond bod pethau eraill yn siŵr o barhau, gan gynnwys creadigrwydd y Cymry ifanc mae’r Urdd (ac yn enwedig yr Eisteddfod) yn helpu i’w gynnal a’i ddathlu.”

Mae rhestr o holl enillwyr y cystadlaethau cyfansoddi, ynghyd â beirniadaethau, bellach ar gael ar wefan Eisteddfod yr Urdd.

Gallwch ddarllen sgyrsiau gydag enillwyr prif wobrau’r wythnos, yma:

Prifardd Eisteddfod yr Urdd 2020 eisiau “tynnu sylw” at dlodi plant yng Nghymru

Pedwar cynnig i Gymro – ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd yn “rhyddhad” ar ôl dod yn ail deirgwaith, meddai Carwyn Eckley

“Blerwch y berthynas” rhwng dwy ffrind yn ganolbwynt i ddarn y Fedal Ddrama

Cadi Dafydd

Y cof, a sut mae pobol yn cofio’r un profiadau mewn gwahanol ffyrdd, oedd y syniad gwreiddiol tu ôl i ddrama fuddugol Miriam Sautin

Cylch o ganeuon yn clodfori Dyffryn Clwyd yn cipio Medal Gyfansoddi’r Urdd 2020-21

Cadi Dafydd

‘Dw i wedi cyflwyno’r casgliad er cof am Nain, felly roedd hynny’n golygu lot i mi ac wedi fy ysbrydoli i’n fawr’ – Ioan Wynne Rees

Yr argyfwng hinsawdd yn ysbrydoli gwaith buddugol Coron yr Urdd 2020-21

Cadi Dafydd

“Dw i’n meddwl y dylai pawb boeni amdano fo’n aml, mewn ffordd, mae o’n argyfwng”