Mae un o gerddorion rap mwyaf adnabyddus Sweden wedi ei saethu yn farw, ac yntau ond yn 19 oed.

Fe gafodd Einar ei saethu gyda sawl bwled yn ardal Hammarby yng nghanol Stockholm, prifddinas Sweden, a bu farw yn y fan a’r lle.

Mae’r heddlu yn chwilio am o leiaf dau berson, ac mae’r papur newydd Aftonbladet wedi adrodd bod bywyd y rapar wedi ei fygwth sawl gwaith yn ddiweddar.

Fe gafodd Nils Gronberg – sef enw iawn Einar – ei eni yn Stockholm.

Yn 16 oed, aeth ei gân ‘Katten I Trakten’ i rif un yn siartiau pop Sweden yn 2019.

Bu cynnydd mewn trosedd gangiau yn Sweden yn y blynyddoedd diwethaf, gyda sawl un wedi ei saethu gan gangiau yn Stockholm, Goteborg a Malmo.