Doedd Miriam Sautin erioed wedi ysgrifennu drama cyn iddi ddechrau gweithio ar Anghymesur, y ddrama ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2020-21.

Y cof, a sut mae pobol yn cofio’r un profiadau mewn gwahanol ffyrdd, yw canolbwynt y ddrama, a hynny wedi’i gyfleu drwy berthynas dwy ffrind.

Yn ôl Miriam Sautin, sy’n dod o Lanbedrog ym Mhen Llŷn ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, roedd y broses o greu’r ddrama yn “arbrawf”, ac roedd hi’n “syndod” clywed bod y beirniaid wedi mwynhau’r darn cystal.

Daeth chwe darn i law ar gyfer y gystadleuaeth, ac yn ôl y beirniaid, Llinos Gerallt a Siân Naiomi, “mae cymhlethdod a blerwch bywyd i gyd” yn nrama Miriam Sautin.

“Roeddwn i wedi bod yn sgwennu’n dawel bach fy hun, ond doeddwn i erioed rili wedi cyflwyno gwaith na chystadlu gymaint â hynny. Roedd o’n fwy o rywbeth roeddwn i’n gwneud ar ben fy hun,” meddai Miriam Sautin wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl bod [trio’r] flwyddyn ddiwethaf yn ryw fath o push jyst i fentro, i gael y feirniadaeth, gweld os oeddwn i’n gallu gorffen darn o waith.

“Roedd o’n fwy o her i fi’n hun, roedd o’n syndod bod y beirniaid wedi mwynhau gymaint.”

Atgofion anghymesur

Mae’r darn, Anghymesur, yn trafod perthynas dwy ffrind yn eu hugeiniau cynnar sydd heb weld ei gilydd ers tair blynedd.

“Mae yna un wedi symud i Sbaen, ond wedi symud i ffwrdd heb ddweud wrth y llall, a dim cysylltiad am dair blynedd,” eglurodd Miriam Sautin.

“Mae hi’n dod yn ôl oherwydd bod ei thad hi wedi marw, ond roedd ei pherthynas hi efo’i thad yn andros o gymhleth ac yn un anodd iawn, ac roedd perthynas y ddwy wedi’i lleoli o’i amgylch o, ac roedd yna ryw gystadleuaeth o ran ei gariad o – mae hynny ychydig bach yn gymhleth ac yn amwys hefyd.”

Mae yna dipyn o neidio’n ôl ac ymlaen mewn amser yn y ddrama. Wrth gofio’n ôl at atgofion, mae’r ddwy ffrind yn cofio profiadau mewn gwahanol ffyrdd.

“Mae’n ddiddorol weithiau ti’n clywed sut mae rhywun un ai wedi anghofio rhywbeth yn gyfan gwbl, neu eu bod nhw wedi newid rhywbeth, a sut mae camddeall atgof, neu gamddehongli person neu brofiad, yn gallu newid trywydd bywyd rhywun weithiau, neu newid persbectif rywun.”

Drama lwyfan oedd gan Miriam Sautin mewn golwg wrth ysgrifennu Anghymesur, ac roedd gweld Mari Elen a Betsan Ceiriog yn perfformio darnau o’r ddrama yn “swreal”.

Wrth esbonio’r enw, dywedodd bod drychau’n ganolog i’r set, ond ei fod yn adlewyrchu’r “syniad yma o sut ti’n gallu sbïo a dal i weld pethau mewn ffordd wahanol, bod y ffordd maen nhw’n gweld pethau ddim rili’n gyfartal neu gymesur”.

“Blerwch y perthnasau”

O ran y themâu a’r symbolaeth, mae sefyllfa Cymru, Ewrop a Lloegr yn dod mewn i’r ddrama hefyd, meddai Miriam Sautin.

“Mae hwnna bendant yn eilradd, fel ryw fath o gefndir, i’r cymeriadau sydd yn ganolbwynt i’r holl beth – blerwch y perthnasau.

“Y syniad gwreiddiol oedd y syniad yma o gofio, sut mae unigolyn yn cofio profiad a sut ti’n gallu perswadio dy hun bod rhywbeth wedi digwydd neu heb ddigwydd, a bod gwadu yn rhywbeth mawr iawn, bod pawb yn rhyw fath o wadu ryw realiti.

Astudiodd Miriam Sautin radd mewn Ffrangeg a Sbaeneg yn Durham, cyn treulio dwy flynedd yn dysgu Saesneg Iaith a Llenyddiaeth ym Mhrifysgolion Limoges a Lyon yn Ffrainc, lle’r oedd hi hefyd yn cynnig gwersi ysgrifennu creadigol.

“Mae un o’r cymeriadau’n dod adre’n ôl i Gymru, ac ar y pryd roeddwn i’n byw yn Ffrainc felly roedd gen i ddiddordeb yn y syniad o bwysigrwydd adre a be mae hynny’n feddwl.”

Arbrofi ag arddulliau

Mae’r ddrama’n eithaf gwahanol i’w gweithiau eraill, meddai, ac ar hyn o bryd mae Miriam Sautin wrthi’n ysgrifennu cyfres o straeon byrion.

Cyn ysgrifennu’r ddrama ar gyfer yr Urdd, straeon byrion oedd hi’n gweithio arnyn nhw amlaf, er ei bod wedi ysgrifennu monolog a drama fer ers hynny hefyd.

Mae Miriam Sautin yn dal i fwynhau arbrofi gyda gwahanol ffurfiau, ac yn dweud bod ganddi “dal gymaint i’w ddysgu” ynghylch y ddrama.

“Dw i’n meddwl bod fy arddull i wedi newid yn y ddwy flynedd ddiwethaf, roedd o’n brofiad reit od mynd yn ôl at y ddrama i’r Urdd,” meddai, gan ychwanegu ei bod hi wedi ystyried a fyddai hi’n dal yn ysgrifennu yn yr un ffordd heddiw, neu hyd yn oed yn dal i ysgrifennu’r un stori.

“Yn enwedig ar ôl y flwyddyn ddiwethaf yma, mae safbwynt a blaenoriaethau pobol wedi newid, a bod y straeon mae pawb isio’u dweud, neu isio’u clywed, bach yn wahanol,” meddai.

“Dw i’n brysur jyst yn sgwennu, ar y funud jyst i fi fy hun, ond gawn ni weld.”

Mae’r Urdd wedi sicrhau y bydd y gwaith sy’n dod i’r brig yn gweld golau dydd drwy gyhoeddi Deffro – y cyfansoddiadau ar eu newydd wedd – a fydd allan ddydd Gwener (22 Hydref).

Gallwch ddarllen sgyrsiau gyda dau o brif enillwyr eraill yr wythnos hyd yn hyn, isod.

Yr argyfwng hinsawdd yn ysbrydoli gwaith buddugol Coron yr Urdd 2020-21

Cadi Dafydd

“Dw i’n meddwl y dylai pawb boeni amdano fo’n aml, mewn ffordd, mae o’n argyfwng”

Cylch o ganeuon yn clodfori Dyffryn Clwyd yn cipio Medal Gyfansoddi’r Urdd 2020-21

Cadi Dafydd

‘Dw i wedi cyflwyno’r casgliad er cof am Nain, felly roedd hynny’n golygu lot i mi ac wedi fy ysbrydoli i’n fawr’ – Ioan Wynne Rees