Ar ôl dod yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair deirgwaith, Carwyn Morgan Eckley o Benygroes, Dyffryn Nantlle, yw Prifardd Eisteddfod yr Urdd 2020-21.
Tlodi plant yng Nghymru yw thema awdl fuddugol Carwyn Eckley, ac yn ôl y beirniaid mae’n “gerdd grefftus i’n cywilyddio [sy’n] haeddu clod a Chadair yr Eisteddfod”.
Roedd gofyn i gystadleuwyr gyfansoddi cerdd neu gerddi caeth neu rydd ar y testun ‘Ennill Tir’, a daeth 13 cerdd i law’r beirniaid, sef Eurig Salisbury a Peredur Lynch.
Matthew Tucker o Bontarddulais, sy’n athro Cymraeg yn Ysgol Dyffryn Aman, ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth.
Dysgodd Matthew i gynganeddu tra yn y chweched dosbarth yn Ysgol y Strade yn Llanelli, dan arweiniad y Prifardd Tudur Dylan Jones, a daeth yn agos at y brig yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd 2017 a 2019.
Caryl Bryn Hughes o Borth Amlwch, Ynys Môn, ddaeth yn drydydd. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2020 gyda’i chyfrol gyntaf o farddoniaeth dan faner y Stamp, ‘Hwn ydy’r Llais, tybad?’.
Trwy gydol yr wythnos, mae’r Urdd wedi bod yn gwobrwyo’r holl waith Cyfansoddi a Chreu buddugol ddaeth i law yn 2020, cyn gorfod gohirio’r Eisteddfod yn Ninbych ddwywaith yn sgil Covid.
Carwyn Eckley
Bellach yn 25 oed, mae Bardd y Gadair, Carwyn Eckley, yn gweithio fel newyddiadurwr i adran rhaglenni Cymraeg ITV Cymru yng Nghaerdydd.
Dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth yn Ysgol Dyffryn Nantlle dan arweiniad ei athrawes Ms. Eleri Owen.
Aeth yn ei flaen i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle dysgodd gynganeddu ac ennill Cadair yr Eisteddfod Ryng-golegol yn 2017.
Mae Carwyn hefyd yn aelod o dîm buddugol Talwrn y Beirdd eleni, Dros yr Aber.
“Thema’r gerdd ydi tlodi plant, a thlodi plant yng Nghymru yn benodol,” eglura Carwyn.
“Y rheswm mai ‘Pump’ oedd fy ffugenw oedd bod pum golygfa o fewn y gerdd, sy’n edrych ar wahanol agweddau o dlodi plant a lle ’da ni arni yng Nghymru ar hyn o bryd.
“O’n i’n teimlo fod o’n fater pwysig i sgwennu amdano, o gysidro pan sgwennwyd y gerdd fod tua thraean o blant Cymru yn byw mewn tlodi.”
“Awdl fedrus, feiddgar a dyfeisgar”
Mewn “cystadleuaeth agos”, daeth tri ymgais i’r brig, ond Carwyn Eckley sydd wedi ennill y Gadair, a gafodd ei cherfio gan Rhodri Owen.
“Nid ar chwarae bach mae ysgrifennu awdl, ac mae hon yn awdl fedrus, feiddgar a dyfeisgar,” meddai’r beirniaid.
“Mae’n defnyddio ystod o wahanol fesurau yn effeithiol iawn ac mae ganddo ddawn cynghanedd feistrolgar.
“Man cychwyn y bardd yw’r ffaith fod traean o blant Cymru’n byw mewn tlodi heddiw, ac yn drwm ei lach ar eiriau gweigion y gwleidyddion.
“Lluniodd ddarlun teimladwy o fachgen ifanc a’i fam, yn ceisio dygymod â thlodi.”
Yn sgil partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, bydd y tri ddaeth i’r brig yn cael gwahoddiad i fynychu Cwrs Olwen yn Nhŷ Newydd, er mwyn dysgu am y byd llenyddiaeth a chyhoeddi, cymryd rhan mewn gweithdai ysgrifennu creadigol, a chymdeithasu ag awduron eraill.
“Anrhydedd”
Rhodri Owen, sy’n wneuthurwr dodrefn o Ysbyty Ifan, sy’n gyfrifol am greu’r Gadair, ac eglurodd wrth Golwg ei bod hi’n “braf cael rhoi yn ôl” i’r Urdd, ac yntau wedi bod yn cystadlu yn yr adrannau Celf a Chrefft pan oedd yn blentyn.
“Mae hi wedi bod yn daith eithaf hir i gyrraedd y fan yma, nid jest i fi ond i lawer o bobl eraill.
“Felly mae hi’n anrhydedd mawr a dwi’n falch iawn o gyflwyno’r Gadair o’r diwedd.
“Y pren dwi wedi ei ddefnyddio ydi ffawydd ac ychydig bach o dderw hefyd. Mae’r paneli lliw yn ffawydd wedi ei sbotio, sy’n golygu fod y pren wedi ei blancio fel coeden ac yna mae ffwng wedi mynd i mewn iddo i greu’r patrymau du wrth sychu yn yr awyr agored.
“Mae’r lliwiau duon yn gwneud patrymau tlws, ac mae lliwiau’r Urdd yn torri drwy hynny ac yn ailymddangos ar ben y gadair.
“Dwi’n gobeithio bod y Gadair hon yn adlewyrchu’r gobaith yn Urdd Gobaith Cymru.”
Yfory (22 Hydref), bydd Eisteddfod yr Urdd yn cyhoeddi Deffro, sef cyfrol y cyfansoddiadau ar ei newydd wedd, wedi’i guradu gan ddau o gyn-enillwyr Eisteddfod yr Urdd, Efa Lois a Brennig Davies.