Alec Baldwin, yr actor profiadol sy’n serennu ac yn cynhyrchu’r ffilm Rust, wnaeth saethu’r gwn oedd yn brop gan ladd cyfarwyddwr ffotograffiaeth y ffilm ac anafu’r cyfarwyddwr, meddai’r heddlu.

Dywedodd swyddogion yn Santa Fe, New Mexico, fod Halyna Hutchins, cyfarwyddwr ffotograffiaeth y ffilm, a’r cyfarwyddwr, Joel Souza, wedi cael eu saethu ddydd Iau.

Cludwyd Hutchins, 42, i Ysbyty Prifysgol New Mexico, lle cadarnhaodd personél meddygol ei bod wedi marw, meddai’r awdurdodau.

Cafodd Souza, 48, ei gludo mewn ambiwlans i Ganolfan Feddygol Ranbarthol Christus St Vincent, lle mae’n cael triniaeth am ei anafiadau.

Mae cynhyrchiad y ffilm wedi’i atal.

Dywedodd llefarydd ar ran Baldwin bod damwain wedi bod ar y set oedd yn cynnwys cam-danio gwn oedd yn brop gyda bwledi ffug [blanks].

Dywedodd y Santa Fe New Mexican fod Baldwin, sy’n 63 oed, wedi’i weld y tu allan i swyddfa’r Siryf yn ei ddagrau ddydd Iau – ond bod ymdrechion i gael sylw ganddo bryd hynny yn aflwyddiannus.

“Manylion yn aneglur ar hyn o bryd”

Cadarnhaodd Urdd Ryngwladol Gwnaethurwyr Ffilm mai Hutchins oedd y fenyw a saethwyd yn i farwolaeth.

“Mae’r manylion yn aneglur ar hyn o bryd, ond rydym yn gweithio i ddysgu mwy, ac rydym yn cefnogi ymchwiliad llawn i’r digwyddiad trasig hwn,” meddai llywydd yr Urdd Ryngwladol, John Lindley, a’r cyfarwyddwr gweithredol, Rebecca Rhine, mewn datganiad.

Roedd Hutchins, 42, yn gyfarwyddwr ffotograffiaeth ar Archenemy yn 2020, gyda Joe Manganiello yn serennu.

Graddiodd o Sefydliad Ffilm America yn 2015, a chafodd ei henwi’n “seren newydd” gan American Cinematographer yn 2019.

“Dwi mor drist am golli Halyna. Ac mor ddig y gallai hyn ddigwydd ar set,” meddai cyfarwyddwr Archenemy, Adam Egypt Mortimer, ar Twitter.

“Roedd hi’n dalent wych a oedd wedi ymrwymo’n llwyr i gelf ac i ffilmio.”

Galwadau 911

Aeth swyddogion i set y ffilm yn y Bonanza Creek Ranch tua 2pm ar ôl galwadau 911 yn crybwyll person yn cael ei saethu ar y set, meddai llefarydd heddlu lleol, Juan Rios.

Dywedodd bod ditectifs yn ymchwilio i beth yn union gafodd ei saethu.

“Mae’r ymchwiliad hwn yn parhau i fod yn agored ac yn weithredol,” meddai Mr Rios mewn datganiad.

“Does dim cyhuddiadau wedi’u ffeilio mewn perthynas â’r digwyddiad hwn. Mae tystion yn parhau i gael eu cyfweld gan dditectifs.”

Roedd disgwyl i’r ffilmio ar gyfer Rust barhau hyd dechrau mis Tachwedd, yn ôl datganiad newyddion gan Swyddfa Ffilm New Mexico.