Mae un o gyfresi mwyaf hirhoedlog S4C, Dechrau Canu Dechrau Canmol, yn dathlu ei phen-blwydd yn 60 eleni, a bydd rhaglen arbennig ar S4C nos Sul yn edrych yn ôl ar apêl y gyfres.

O gapel Trinity yn Sgeti, Abertawe ddaeth y rhaglen gyntaf un yn 1961, ac ers hynny mae’r gyfres wedi teithio i bob cwr o Gymru gyda chast amrywiol o arweinyddion, cyfranwyr a chyflwynwyr.

Fel rhan o’r rhaglen arbennig ddydd Sul, bydd nifer o gyfranwyr yn edrych yn ôl gan drafod y ffasiwn, yr hwyl, yr oglau sent ac angerdd y canu mawl.

“Roedd yn rhywbeth hollol newydd ar y bryd i fynd a chamerâu i mewn i gapeli,” meddai R Alun Evans, cyflwynydd, cynhyrchydd a chyfarwyddwr y gyfres rhwng 1962 a 1969.

“Ro’n i yn weinidog yn Llandysul yn 1961 a dyna le welais i Dechrau Canu am y tro cynta’ a rhyfeddu at ansawdd y canu. Roedd gen i ychydig o brofiad mewn darlledu ac fe wnes i ddechrau cyflwyno, oedd yn deimlad cynhyrfus tu hwnt.

“Fe lwyddodd Dechrau Canu Dechrau Canmol i ysbrydoli rhaglen Saesneg Songs of Praise. Roedd e’n fformat oedd yn gweithio, ac roedd y ffigurau yn profi hynny.”

Llwyfan i sêr

Llwyddodd y gyfres hefyd i roi llwyfan i nifer o sêr ifanc, gan gynnwys y canwr adnabyddus o Fôn, Aled Jones… o Eglwys y Plwy, Biwmares, y clywyd ei lais ar deledu am y tro cyntaf.

“O’n i’n unarddeg neu deuddeg ac adre yn Llandegfan pan ddoth yr alwad a dwi erioed di gweld Mam mor ecseited. Iddyn nhw, roedd e’r peth gorau fyddai’n gallu digwydd erioed!” meddai Aled Jones.

“Hon oedd y rhaglen deledu fawr gyntaf i fi wneud, a ro’n i’n ymwybodol bod pawb yng Nghymru yn gwylio. Ro’n i mor nerfys!

“Dwi’n sicr ddim yn meddwl y byddwn i wedi cyflwyno Songs of Praise heb fy nghysylltiad gyda Dechrau Canu Dechrau Canmol.”

“Braint”

Bu Huw Llewelyn Davies yn cyflwyno Dechrau Canu Dechrau Canmol am bron i ddegawd rhwng 1998 a 2006, a dywedodd bod hi’n “fraint aruthrol” cael cyflwyno’r rhaglen.

“Pan ges i gynnig cyflwyno’r gyfres fe ges i sioc, a dwi’n meddwl bod pobl eraill wedi cael hyd yn oed mwy o sioc!” meddai Huw Llywelyn Davies.

“Ond roedd hi’n fraint aruthrol. Roedd hi’n bwysig i mi mai nid jyst cyflwynydd yn sefyll mewn capel  oedd i’w weld yn ystod y rhaglen ond bod yr elfen sgyrsiol yn bwysig. Rhaglen y bobl yw hi wrth gwrs.”

“Mae’n gyfres sydd wedi aros yn boblogaidd ar hyd y blynyddoedd. Mae hynny’n synnu llawer – wrth feddwl bod rhaglen draddodiadol am ganu emynau wedi bod mor boblogaidd. Un o’r rhesymau dwi’n credu yw bod hi wedi apelio at y di-Gymraeg, a’r elfen o nostalgia yn bwysig iawn hefyd.”

“Tipyn o gamp”

Mae hon yn “garreg filltir bwysig i gyfres sydd wedi bod ar dipyn o siwrne,” meddai’r cyflwynydd presennol, Nia Roberts.

“Does yr un rhaglen deledu Gymraeg arall wedi bod ar y sgrin gyhyd â Dechrau Canu Dechrau Canmol, a dim ond llond llaw o gyfresi all guro ein record drwy Brydain gyfan,” meddai Nia Roberts.

“Mae aros ar yr awyr am 60 o flynyddoedd yn dipyn o gamp i unrhyw raglen.

“Yr hyn sy’n drawiadol i mi yw balchder y bobl sydd wedi ymwneud â’r gyfres ar hyd y degawdau a chariad y gynulleidfa tuag ati.”

Fel rhan o ddathliadau’r 60, fe lansiodd y gyfres bôl piniwn Emyn i Gymru yn yr haf er mwyn darganfod pa emyn yw hoff emyn Cymru eleni.

Nos Sul, 31 Hydref, bydd rhaglen arbennig arall yng nghwmni Huw Edwards o Neuadd Dewi Sant Caerdydd, a bydd y deg uchaf yn cael eu datgelu a’u perfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o dan arweiniad Owain Arwel Hughes a chôr arbennig o 60 o gantorion o bob rhan o Gymru.

  • Dechrau Canu Dechrau Canmol am 7yh nos Sul, 24 Hydref ar S4C, yna Emyn i Gymru, 31 Hydref am 7yh.