Yr wythnos hon mae enillwyr prif gystadlaethau Eisteddfod yr Urdd 2020 wedi cael eu gwobrwyo.

Oherwydd Covid, bu’n rhaid gohirio’r steddfod oedd i fod i gael ei chynnal yn Ninbych, ac mae’r enillwyr wedi gorfod aros blwyddyn a mwy i fedru dathlu eu campau.

Ond o’r diwedd yr wythnos hon bu cyfle ar blatfformau digidol i ddathlu enillwyr y Gadair, y Goron, y Fedal Ddrama a’r Fedal Gyfansoddi.