Miriam Elin Sautin o Lanbedrog ym Mhen Llŷn yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2020-21.

Daeth chwe darn i law’r beirniad, ond Miriam Sautin ddaeth i’r brig gyda “drama afaelgar a safonol” sy’n “llawn dirgelwch ac amwynder gyda diweddglo cryf”.

Carys Bradley-Roberts o Gaerdydd ddaeth yn ail am y Fedal Ddrama, ac Elis Siôn Pari o Aberdaron ddaeth yn drydydd.

Drwy gydol yr wythnos hon, mae’r Urdd yn gwobrwyo’r gwaith buddugol ddaeth i law ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2020.

Cafodd yr Eisteddfod honno yn Ninbych yn gohirio llynedd, ac eto eleni, oherwydd y pandemig.

Creadigol

Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor Pwllheli, aeth Miriam Sautin yn ei blaen i gwblhau gradd mewn Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Durham.

Wedi hynny, treuliodd ddwy flynedd yn dysgu Saesneg Iaith a Llenyddiaeth ym Mhrifysgol Limoges a Lyon yn Ffrainc, lle’r oedd hi hefyd yn cynnig gwersi ysgrifennu creadigol.

Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd, ac yn gweithio i Lenyddiaeth Cymru.

Bydd hi’n derbyn medal wedi’i chreu’n arbennig gan gwmni gemwaith Rhiannon o Dregaron, a bydd yn cael cyfle i dreulio amser gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn datblygu’r gwaith buddugol.

Fe fydd hi hefyd yn derbyn hyfforddiant pellach gyda’r BBC, yn datblygu syniadau gyda Choleg Prifysgol y Drindod Dewi Sant, yn treulio amser gyda S4C, ac yn cael cyflwyniad i ysgrifennu ar gyfer y teledu.

“Calonogol”

Elis Siôn Pari
Carys Bradley-Roberts

Roedd gofyn i gystadleuwyr gyfansoddi drama a fyddai’n cymryd rhwng 40 a 60 munud i’w pherfformio, ac yn ôl y beirniaid Llinos Gerallt a Sian Naiomi, roedd y chwe drama ddaeth i law yn “gyfoes a pherthnasol”.

“Hoffem ddiolch i bob cystadleuydd am eu hymdrechion a’u hymroddiad,” meddai’r beirniaid.

“Roedd yr ysgrifennu yn sensitif, tyner a theimladwy. Calonogol iawn oedd darllen ambell berl o linell a wnaeth wir argraff arnom.

“Roedd cyfeillgarwch yn elfen amlwg iawn drwy’r gystadleuaeth a’r berthynas fregus a chymhleth rhwng ffrindiau yn mynd â bryd nifer o’r dramodwyr.”

“Celfydd”

Gosodwyd y gwaith mewn dau ddosbarth, gyda phedwar darn yn cyrraedd y dosbarth cyntaf.

Fe wnaeth drama Miriam Sautin hawlio sylw’r beirniaid o’r dudalen gyntaf, meddai Llinos Gerallt.

“Mae’r berthynas rhwng dwy ffrind yn gymhleth a chyfoethog, gyda’r plot yn datblygu’n gelfydd wrth inni dyrchu i’w gorffennol,” meddai.

“Drama sy’n llawn dirgelwch ac amwynder gyda diweddglo cryf. Mae cymhlethdod a blerwch bywyd i gyd yma.

“Mae’r dramodydd hefyd yn fardd, ond yn gofalu nad yw’r barddoniaeth yn tarfu ar lif a thempo’r ddrama.”

Bydd Miriam Sautin, a Carys Bradley-Roberts ac Elis Siôn Pari, yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yng Nghwrs Olwen yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.

Mae’r Urdd wedi sicrhau y bydd y gwaith sy’n dod i’r brig yn gweld golau dydd drwy gyhoeddi Deffro – y cyfansoddiadau ar eu newydd wedd – a fydd allan ddydd Gwener (22 Hydref).

Gallwch ddarllen sgyrsiau gyda dau o brif enillwyr eraill yr wythnos yma:

Yr argyfwng hinsawdd yn ysbrydoli gwaith buddugol Coron yr Urdd 2020-21

Cadi Dafydd

“Dw i’n meddwl y dylai pawb boeni amdano fo’n aml, mewn ffordd, mae o’n argyfwng”

Cylch o ganeuon yn clodfori Dyffryn Clwyd yn cipio Medal Gyfansoddi’r Urdd 2020-21

Cadi Dafydd

‘Dw i wedi cyflwyno’r casgliad er cof am Nain, felly roedd hynny’n golygu lot i mi ac wedi fy ysbrydoli i’n fawr’ – Ioan Wynne Rees