Rhagwelir y bydd dyled Cyngor Caerdydd yn cynyddu’n sylweddol i £1.4 biliwn yn y dair blynedd nesaf.
Hyd yma mae’r cyngor wedi benthyg £841 miliwn, ond mae disgwyl i’r ffigwr fod wedi cynyddu i £1.435 biliwn erbyn y flwyddyn ariannol 2023-24.
Gyda’r cyngor eisoes yn talu tua £34 miliwn o log y flwyddyn, mae rhai cynghorwyr wedi cwestiynu’r angen i gynyddu’r swm sy’n cael ei fenthyca.
Dywed Arweinydd y Cyngor, Huw Thomas, fod angen benthyg yr arian er mwyn adeiladu miloedd o dai cyngor newydd, ynghyd ag ysgolion newydd ac arena awyr agored ym Mae Caerdydd.
Daeth y manylion am y cynnydd mewn benthyciadau yn adroddiad blynyddol trysorydd y cyngor, a drafodwyd mewn cyfarfod llawn o’r cyngor ddydd Iau, 21 Hydref.
Cwestiynau pigog
Un fu yn holi mwy am y ddyled oedd y Cynghorydd Lib Dem, Rodney German.
“Rydym ni eisoes yn talu llog o £34 miliwn, beth fyddwn ni yn ei dalu mewn llog pan fyddwn ni wedi cyrraedd y pwynt, ymhen ychydig o flynyddoedd, pan fydd yr hyn rydan ni yn ei fenthyg bron wedi dyblu?
“Ydyn ni am fedru cynnal gwasanaethau yn y ddinas yn y blynyddoedd i ddod, gyda’r lefel yma o fenthyca?”
Ymateb y Cynghorydd Huw Thomas o’r Blaid Lafur oedd bod Llafur yn buddsoddi yn economi, tai a phlant y brifddinas, ac roedd yn collfarnu’r alwad am lai o fenthyca arian fel adlais o’r cynni fu pan oedd y Ceidwadwyr a’r Lib Dems mewn clymblaid yn San Steffan.
“Pan edrychwch chi ar y benthyg arian sydd yn yr arfaeth, mae tua £250 miliwn… ar gyfer adeiladu tai safonol sydd wir ei angen yn y farchnad rhentu sector gyhoeddus yng Nghaerdydd.”
Mae gan y cyngor gynllun “anferthol a hanesyddol” i godi 4,000 o dai, gyda 600 eisoes wedi eu codi.