Ni fydd pobol sy’n dychwelyd i Gymru o dramor, ac sydd wedi’u brechu’n llawn, yn gorfod cymryd prawf PCR o ddiwedd y mis.

Yn hytrach, bydd pob teithiwr yn gallu cymryd prawf llif unffordd o 31 Hydref ymlaen.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r newidiadau’n unol â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, er bod ganddyn nhw bryderon am y cynlluniau.

O 31 Hydref ymlaen, bydd pob oedolyn sydd wedi derbyn dau ddos o’r brechlyn, a’r rhan fwyaf o blant dan 18 oed, yn gallu cymryd prawf llif unffordd ar ddiwrnod dau, neu cyn hynny, ar ôl dychwelyd i’r Deyrnas Unedig o wledydd sydd ddim ar y rhestr goch.

Ar hyn o bryd, dim ond Colombia, Gweriniaeth Dominica, Ecuador, Haiti, Panama, Periw a Venezuela sydd ar y rhestr goch.

Os bydd canlyniad y prawf llif unffordd yn bositif ar ôl dychwelyd o dramor, bydd rhaid hunanynysu am ddeng niwrnod a chymryd prawf PCR wedyn.

Bydd pobol dal yn gallu dewis cymryd prawf PCR fel y prawf gofynnol ar ddiwrnod 2, fel sy’n digwydd ar y funud.

“Pryderus”

Bydd y newidiadau’n dod i rym yn Lloegr wythnos ynghynt, ddydd Sul yma (24 Hydref).

Yn ôl Llywodraeth Cymru, dydi hi ddim yn bosib cyflwyno’r newidiadau’r un pryd oherwydd nad ydyn nhw wedi “cael digon o wybodaeth mewn da bryd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch sut y bydd y newidiadau hyn yn gweithio’n ymarferol”.

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan nad yw hyn yn “ddelfrydol”.

“Rydym yn dal i fod yn bryderus am ddull gweithredu Llywodraeth y Deyrnas Unedig – a pha mor gyflym y mae’n mynd ati o ran agor teithio rhyngwladol a’i phenderfyniadau i newid y mesurau iechyd ar y ffin, sy’n amddiffyniadau pwysig i atal y risg y bydd achosion newydd – ac amrywiolion newydd o’r coronafeirws – yn dod i mewn i’r Deyrnas Unedig,” meddai Eluned Morgan.

“Rydym wedi annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyson i ddefnyddio dull rhagofalus o ran ailagor teithio rhyngwladol.

“Fodd bynnag, mae’n anodd inni fabwysiadu trefn brofi wahanol i’r hyn sy’n ofynnol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan fod y rhan fwyaf o deithwyr o Gymru yn dod i mewn i’r DU drwy borthladdoedd a meysydd awyr yn Lloegr.

“Byddai cael gofynion profi gwahanol yn achosi problemau ymarferol sylweddol, dryswch ymhlith y cyhoedd sy’n teithio, materion logistaidd, trefniadau gorfodi ar ein ffiniau ac anfanteision i fusnesau Cymru.

“Rydym yn parhau i annog pobl i deithio am resymau hanfodol yn unig.

“Rwyf yn pryderu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ei brys i gyflwyno’r newidiadau diweddaraf hyn i deithio rhyngwladol, wedi creu system sydd â diffyg goruchwyliaeth a safonau i’r farchnad weithredu ynddi.”

Mae Eluned Morgan wedi ysgrifennu at Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol San Steffan i ofyn am sicrwydd y bydd y system yn cael ei chryfhau drwy anfon prawf PCR yn awtomatig at bawb sy’n cael canlyniad positif ar y profion llif unffordd.

Maen nhw hefyd am i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fynd i’r afael â sut y caiff y system ei gorfodi, a sicrhau bod canlyniadau’r profion yn cyrraedd systemau Cymru mewn da bryd.

“Rhaid i benderfyniadau am deithio rhyngwladol gael eu gwneud yn wirioneddol ar sail pedair gwlad,” meddai.

“Mae’r rhain yn benderfyniadau sy’n effeithio ar bobl sy’n byw ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig ac ni allwn eu gwneud ar wahân i’n gilydd.”

“Munud olaf”

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod y penderfyniad yn un “munud olaf”.

“Fe wnaeth Llywodraeth Prydain gyhoeddi rai wythnosau y bydd profi wrth ddychwelyd yn symlach a rhatach i bobol sy’n edrych ymlaen at wyliau mawr ei angen dros hanner tymor yr hydref, ond dyw gweinidogion Llafur ond wedi newid eu meddyliau ar y funud olaf yn dilyn pwysau gan y Ceidwadwyr Cymreig am gyhoeddiad,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr.

“Mae’r Llywodraeth Llafur wedi dweud yn y gorffennol y dylid cael un polisi cyson ar gyfer teithio, ac mae hynny’n gywir, a dw i’n falch na fydd y mater hwn yn wahanol.

“Dylai’r newid hwn olygu llai o ddryswch i bobol sy’n mynd ar eu gwyliau, ac mae’n gadael i Lywodraeth Prydain barhau i osod y polisi ar gyfer y ffin.”

Ychwanegodd ei fod yn croesawu’r penderfyniad i fabwysiadu’r cynllun hwn, ond bod y penderfyniad “munud olaf” yn golygu “nad oes gan bobol amser i baratoi neu addasu cynlluniau”.