Mae’r dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth derfysgol Syr David Amess wedi ymddangos yn llys yr Old Bailey yn Llundain.

Fe ymddangosodd Ali Harbi Ali, 25 oed, ar sgrin yn y llys drwy gyswllt fideo – mae yn cael ei ddal yng  ngharchar Belmarsh.

Mae wedi ei gyhuddo o drywanu Aelod Seneddol Ceidwadol Southend West i farwolaeth.

Roedd David Amess, 69 oed, yn cynnal syrjyri yn Leigh-on-Sea yn Essex ar y pryd.

Mae Ali Harbi Ali wedi ei gyhuddo o lofruddio’r gwleidydd oedd yn dad i bump, ddydd Gwener diwethaf, ac wedi ei gyhuddo o baratoi gweithredoedd terfysgol rhwng 1 Mai, 2019 a mis Medi’r flwyddyn hon.

Yn ystod y gwrandaiwad, bu i Ali Harbi Ali gadarnhau ei enw a’i ddyddiad geni yn unig.