Mae teyrngedau lu wedi cael eu rhoi i Syr David Amess gafodd ei drywanu i farwolaeth ddydd Gwener.

Cafodd AS Toriaidd Gorllewin Southend ei drywanu wrth iddo gynnal cyfarfod syrjeri i’w etholwyr yn Eglwys Fethodistaidd Belfairs yn Leigh-on-Sea ger Southend.

Cafodd dyn 25 oed, Ali Harbinew, ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae gan Heddlu Swydd Essex tan ddydd Gwener i’w holi.

Dyma’r eildro i aelod seneddol gael eu llofruddio mewn sefyllfa debyg.

Ym mis Mehefin 2016, cafodd Jo Cox, AS Llafur Batley a Spen, ei saethu a’i thrywanu’n farw y tu allan i lyfrgell yn Birstall lle’r oedd i gynnal cyfarfod syrjyri.

Y bore yma bu Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, ag arweinydd y Blaid Lafur Keir Starmer yn gosod torch o flodau y tu allan i’r eglwys yn Leigh-on-Sea.

Yn y cyfamser bydd lluoedd heddlu yn cysylltu gyda phob Aelod o Senedd San Steffan i’w holi ynglyn â’u trefniadau diogelwch.

Talodd Chris Elmore, AS Llafur Ogwr, deyrnged i Syr David, 69, gan ei ddisgrifio fel dyn “caredig a chwrtais”.

Bonheddwr

Dywedodd aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn Senedd Cymru, Jane Dodds – ei bod hi wedi gohirio ei syrjeris hi y penwythnos yma yn dilyn y digwyddiad.

Yn ei theyrnged hi, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan Liz Saville Roberts fod Syr David, oedd yn dad i bump o blant, “yn un o fonheddwyr San Steffan.”

Dywedodd cyn-AS Ceidwadol Maldwyn, Glyn Davies fod Syr David yn “ddyn cyfeillgar” oedd yn “chwerthin lot”.

Wrth siarad ar Radio Cymru, dywedodd Mr Davies: “Roedd teulu yn bwysig i David ac mae’n drist iawn i’w deulu,” meddai.

Dywedodd AS Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams y byddai’n cofio Syr David Amess fel “person adeiladol, clên iawn.

“Roedd o’n berson dymunol ac addfwyn iawn.”

Yn y cyfamser mae cyn-Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi ymddiheuro yn dilyn neges a gyhoeddodd ar Twitter yn dilyn y farwolaeth.

Roedd Arfon Jones wedi cyhoeddi neges yn dweud: “Yn anffodus dyma beth sy’n digwydd pan mae gennych chi lywodraeth sy’n rhannu a rheoli, ac yn annog ofn, atgasedd a gwahaniaethu. Bydd rhywun, rhywle yn ymateb yn ymosodol.”

Ar ôl cael ei feirniadu gan nifer, gan gynnwys yr AS Ceiwadol Fay Jones, fe ymddiheurodd Arfon Jones.

Dywedodd fod ei neges gynharach yn “ansensitif” a’i fod wedi ceisio mynegi pa mor “wenwynig ydy ein sgwrs wleidyddol” ar hyn o bryd.