Mae dyn o Aberteifi am feicio i Glasgow gyda llythyr yn erfyn i’r uwchgynhadledd hinsawdd yno i gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5° C gradd.

Ddydd Sadwrn nesaf, 23 Hydref, bydd y llythyr yn cynnwys neges o obaith oddi wrth bobl Aberteifi yn cael ei gyflwyno iddo gan Gyngor Tref Aberteifi i’r cynrychiolwyr yn uwchgynhadledd hinsawdd ryngwladol COP 26 yn Glasgow.

Bydd yr uwchgynhadledd yn cael ei chynnal y mis nesaf a bydd arweinwyr a chynrychiolwyr o 197 o wledydd yn bresennol.

Bydd y llythyr yn dwyn y dymuniad diffuant y bydd cynrychiolwyr COP 26 yn ymrwymo i fesurau a fydd yn cadw’r byd ar lwybr i gyfyngu cynhesu byd-eang i’r dyhead o 1.5° C y cytunwyd arno ym Mharis yn 2015.

Cludir y llythyr o Aberteifi i Glasgow gan y seiclwr brwd lleol, Peter Weldon, 54, o Gwm Cou, trysorydd clwb beicio lleol Velo Teifi a chefnogwr Gwrthryfel Difodiant.

Bydd Peter yn beicio tua 400 milltir ac yn cymeryd rhwng saith a naw diwrnod, gan ddibynnu ar y gwynt ac yn y blaen.

Bydd yn aros gyda ffrindiau a chefnogwyr Gwrthryfel Difodiant wrth iddo fynd, gan ddibynnu ble bydd yn disgwyl cyrraedd.

Fel arall bydd yn aros mewn gwely a brecwast.

Allyriadau

Sefydlwyd COP gyntaf gan y Cenhedloedd Unedig ym 1995 i ddelio â newid yn yr hinsawdd.

Yn dilyn 40 mlynedd o rybuddion hinsawdd a 25 o drafodaethau hinsawdd rhyngwladol, mae allyriadau carbon o losgi tanwydd ffosil yn parhau i gynyddu.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig “cod coch i ddynoliaeth”.

Meddai Pete: “Mae’n hen bryd cymryd camau pendant. Mae gan lywodraethau ddyletswydd i amddiffyn bywydau a lles eu dinasyddion.

“Byddaf yn gwneud y siwrnai hon i ddangos i arweinwyr y byd ein bod wir yn poeni am y penderfyniadau y byddant yn eu gwneud.

“Mewn gwirionedd nid yw’n or-ddweud i ddweud y bydd y penderfyniadau fis nesaf yn helpu i lunio cwrs dyfodol dynoliaeth.”

Siomedig

Mae Pete wedi ymgymryd â’r her i feicio i Glasgow ar fyr rybudd gan fod Mike Davies o Sir Benfro a oedd yn wreiddiol yn mynd i wneud y daith feichus, wedi gorfod tynnu’n ôl, yn siomedig iawn, yn dilyn anaf llinyn gar wrth hyfforddi.

Bydd Pete yn beicio o dan faner Gwrthryfel Difodiant ac mae bellach yn cynyddu ei hyfforddiant ei hun.

Mae’n gobeithio ymgysylltu â’r cyhoedd ar hyd y ffordd i godi ymwybyddiaeth o newid yn yr hinsawdd, uwchgynhadledd COP a’i bwysigrwydd.

Bydd pobl yn ymgynnull y tu allan i’r Guildhall yn Aberteifi ddydd Sadwrn Hydref 23ain i ddangos euh cefnogaeth i Pete, a gwylio trosglwyddiad y llythyr gan Gyngor Tref Aberteifi, am 11.30.

Bydd ralïau ledled y DU ddydd Sadwrn 6 Tachwedd, i annog cynrychiolwyr COP26 i weithredu ar frys ar yr hinsawdd, gydag un yng Nghaerdydd yn dechrau am hanner dydd wrth Neuadd y Dinas.

Bydd COP26 Coalition West Wales Hub yn trefnu bysus i fynd â phobl o Sir Benfro.