Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio 17 o gyffurgwn a bachu sawl math o gyffuriau cryf anghyfreithlon yn ystod wythnos o dargedu ‘gangiau llinell cyffuriau’.

Cafwyd 11 cyrch yn ystod yr wythnos o weithredu a llwyddwyd i fachu gwerth £4,500 o grac cocên, heroin a chocên.

Hefyd fe gymrodd yr heddlu £6,500 mewn arian parod oddi ar y cyffurgwn dan y Ddeddf Elw Troseddau.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Dros Dro Andrew Cotterell:

“Roedd yr wythnos ddwysáu llinellau cyffuriau’n llwyddiant ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, a chawsom nifer o ganlyniadau ardderchog diolch i waith rhagweithiol swyddogion a staff yr heddlu ar draws y pedwar rhanbarth.”

Addysg

Bu’r llu yn addysgu gwahanol garfanau o gymdeithas am beryglon y gangiau llinell cyffuriau hefyd:

  • Dros 2,000 o bobl yn cael eu haddysgu am linellau cyffuriau a chamfanteisio yn ystod yr wythnos ddwysáu o fewn y gymuned ac asiantaethau partner.
  • Tua 50 o werthwyr tai/asiantaethau gosod yn cael eu haddysgu am beryglon troseddolrwydd, megis llinellau cyffuriau mewn eiddo rent.
  • Dros 150 o fusnesau’n cael eu haddysgu am linellau cyffuriau, â phwyslais ar y rhai sy’n darparu gwasanaethau credyd ffôn symudol a’r defnydd o ffonau rhagdal.
  • Derbyniodd 50 o blant, pobl ifainc ac oedolion sy’n agored i niwed neu mewn perygl o niwed gymorth diogelu targedig un i un ac mewn grŵp.

Ychwanegodd Andrew Cotterell:

“Ychydig iawn o bobl sy’n ymwybodol o’r gwaith sy’n digwydd tu ôl i’r llenni er mwyn cefnogi dioddefwyr, neu’r mesurau a roddwyd mewn grym er mwyn atal pobl rhag dod yn ddioddefwyr mynych troseddau sy’n gysylltiedig â chyffuriau.

“Mae’n bwysig iawn i ni fel heddlu ein bod ni hefyd yn cymryd ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y dioddefydd tuag at weithio gyda’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y gangiau hyn i’w hatal rhag dod yn ddioddefwyr mynych, yn ogystal â gweithredu ar unrhyw gudd-wybodaeth newydd ar gyfer aflonyddu ar linellau cyffuriau.”