Mae bachgen 14 oed wedi ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd wedi ei gyhuddo o lofruddio Logan Mwangi.

Nid oes hawl enwi’r bachgen oherwydd ei oedran.

Mae wedi ei gyhuddo o lofruddio Logan Mwangi ar 31 Gorffennaf ym Mhen y bont ar Ogwr, a bu iddo ymddangos mewn llys am y tro cyntaf yn Llys Ynadon caerdydd ddoe.

Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 12 Yachwedd ac mae wedi ei roi yng ngofal y cyngor sir lleol.

Daethpwyd o hyd i Logan yn afon Ogwr wedi i’r heddlu dderbyn adroddiadau bod plentyn ar goll.

Mae ei fam, Angharad Williamson, hefyd wedi ei chyhuddo o’i lofruddio.

Ac mae ei phartner, John Cole, hefyd wedi ei gyhuddo o lofruddio Logan.

Bydd Angharad Williamson yn ymddangos ger bron Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.