Mae mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi canmol adroddiad pum mlynedd Comisiynydd y Gymraeg, a’i sylwadau fod angen mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg os am wireddu’r nod o greu miliwn o siaradwyr.

Fe ddywedon nhw bod y ddogfen yn “gynhwysfawr a threiddgar”, ac yn “hoelio’r heriau sy’n wynebu’r iaith ar hyn o bryd a thua’r dyfodol.”

Wrth gyhoeddi’r adroddiad ddydd Iau (Hydref 21), fe nododd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, nad oes yna ddigon o athrawon sy’n siarad Cymraeg ar hyn o bryd.

Roedd hefyd yn pwysleisio nad yw’r iaith wedi bod yn ystyriaeth ganolog yng nghynlluniau adfer Covid-19, a rhybuddiodd y gallai hynny gael effaith andwyol hirdymor ar ddyfodol y Gymraeg.

Bwriad yr adroddiad oedd cyflwyno darlun o sefyllfa’r iaith a phrofiadau siaradwyr Cymraeg, ac amlinellu datblygiadau arwyddocaol y pum mlynedd ddiwethaf.

Ymateb Dyfodol i’r Iaith

Mae Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, yn groesawgar o’r adroddiad, sy’n tynnu sylw at y prinder mewn athrawon Cymraeg eu hiaith.

“Mae neges gadarn y Comisiynydd yn gwbl addas ac amserol, wrth i Gymru a’r Gymraeg barhau i ymdopi ag effeithiau Covid,” meddai.

“Mae’r adroddiad yn amlygu ac ategu ein hunion bryderon ninnau drwy osod y Gymraeg yn ei chyd-destun cymdeithasol ac economaidd ehangaf a gosod pwyslais cadarn ar ei defnydd.

“Mynnwn fod y Llywodraeth yn cymryd y ddogfen hon o ddifrif a gweithredu ar fyrder yn unol â’i hargymhellion.

“Cytunwn fod ehangu addysg cyfrwng Gymraeg yn hanfodol i dwf y Gymraeg, a da yw nodi fod y Comisiynydd yn galw am fynd i’r afael â’r diffyg athrawon sy’n gymwys i addysgu drwy’r Gymraeg.

“Heb hynny, ni cheir unrhyw fath o sail i wireddu uchelgais strategaeth y Llywodraeth.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Comisiynydd am wynebu ac amlinellu sefyllfa’r Gymraeg yn ei holl gymhlethdod.”

‘Angen chwyldro ym myd addysg neu bydd y weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn methu’

‘Eisiau gweld ehangu’r safonau ar draws y sector cyhoeddus, a rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a thu hwnt’