Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi dweud wrth y Fforwm Cymru-Iwerddon cyntaf fod datrysiad positif i Brotocol Gogledd Iwerddon yn sgil Brexit yn hanfodol i Gymru.

Bwriad y Fforwm yw magu perthynas gref rhwng y ddwy wlad ac fel rhan o hynny, fe fu’r prif weinidog yn cyfarfod â Simon Coveney, Gweinidog Materion Tramor Iwerddon, ddoe (dydd Gwener, Hydref 22).

Dywedodd y prif weinidog wrth Press Association fod gan Gymru “ddiddordeb uniongyrchol iawn yn natrysiad y protocol neu weithdrefn fasnachu rhwng Cymru, Iwerddon a gweddill yr Undeb Ewropeaidd”.

Fe fu llai o lorïau’n cludo nwyddau rhwng Dulyn a Chaergybi dros y misoedd diwethaf, ac mae pryderon fod hynny o ganlyniad i Brexit ac y bydd yn ganlyniad parhaol.

Yn hytrach, mae lorïau bellach yn symud yn syth rhwng Iwerddon ac Ewrop, gan osgoi’r Deyrnas Unedig.

“Po hiraf mae hyn yn digwydd, mwyaf pryderus rydyn ni y bydd y tir sydd wedi’i golli dros y 12 mis diwethaf yn gynyddol anodd i’w adennill,” meddai Mark Drakeford.

Effaith ar Gymru

Dywed Mark Drakeford fod perthynas fasnachu sefydlog rhwng Iwerddon, y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd o fudd mawr i Gymru.

“Pan wnaethon ni gyrraedd y pwynt hwnnw, o gael set o drefniadau sefydlog y gall pawb gytuno iddyn nhw, yna rhaid mai ein gobaith yw fod y bont dir sy’n llifo drwy Gymru yn dod, fel y gwnaeth y Gweinidog Coveney ei ategu heddiw, pan fo’n gweithio’n dda, hi yw’r ffordd gyflymaf, rataf a mwyaf cyfleus o sicrhau bod masnach yn llifo,” meddai’r prif weinidog.

“Mae angen i ni geisio dychwelyd i’r amodau hynny ac mae budd uniongyrchol iawn i Gymru o wneud hynny.”

Dywedodd mai diben ei gyfarfod â Simon Coveney oedd “atgyfnerthu” perthnasau ar ôl Brexit.

“Mae elfen o atgyfnerthu yn sicr, ond mae yna fwy o synnwyr o fomentwm wrth symud ymlaen fwy na thebyg, ac o eisiau adeiladu ar yr hyn yw un o’r perthnasau mwyaf hirdymor rhwng dwy genedl yn unman yn Ewrop,” meddai wedyn.

“Llywodraeth ydyn ni yma yng Nghymru sydd â chyfrifoldebau rydyn ni’n gweithredu arnyn nhw.

“Mae nifer o’r cyfrifoldebau hynny’n cyd-fynd â Llywodraeth Iwerddon a dyna’r pethau rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio arnyn nhw.”

Safbwynt Simon Coveney ac Iwerddon

Ddoe (dydd Gwener, Hydref 22), dywedodd Simon Coveney fod y cyfarfod yng Nghymru, ynghyd ag agoriad diweddar swyddfa gonswlaidd ym Manceinion, yn ffordd o “gynnal perthnasau”.

“Mae gennym ni berthynas gref iawn â Chymru,” meddai.

“Mae gennym ni berthynas gref iawn â’r Alban.

“Mae gennym ni berthynas gref iawn â gogledd Lloegr, a hoffwn feddwl fod gennym ni berthynas gref iawn â Llundain hefyd.

“Ond dydy ein perthynas gyda’r Deyrnas Unedig gyfan ddim wedi’i diffinio’n unig gan berthynas Llywodraeth Iwerddon â Llywodraeth Prydain.”

Perthynas Cymru ac Iwerddon o safbwynt Iwerddon

Dywed fod llywodraethau Cymru ac Iwerddon am sicrhau nad yw heriau Brexit yn niweidio’r berthynas rhwng y ddwy wlad sy’n ymestyn dros rai canrifoedd.

“Roedd [y fforwm] yn canolbwyntio’n bennaf ar edrych tua’r dyfodol a pheidio â chaniatáu i rwystredigaethau Brexit, na’r rhwystrau mae Brexit yn eu creu, danseilio’r berthynas graidd ar draws Môr Iwerddon rhwng Cymru ac Iwerddon,” meddai Simon Coveney wedyn.

Dywedodd fod allgyfeirio masnach yn anochel yn dilyn Brexit.

“Mae hyn yn anffodus yn rhan o anghyfleustra Brexit,” meddai.

“Dw i ddim yn meddwl fod neb yng Nghymru sy’n beio Iwerddon am hynny.

“Ond dw i’n credu bod nifer yn sicr yn cwestiynu canlyniadau Brexit.”