Mae dyn o Fôn ymhlith pedwar o bobol sydd wedi’u cyhuddo yn Llys yr Old Bailey o droseddau brawychol.

Cafodd dau ddyn a dynes eu harestio fel rhan o ymchwiliad i frawychiaeth asgell dde ac maen nhw’n gwadu bod â chydrannau arf 3D yn eu meddiant.

Aeth Daniel Wright, Liam Hall a Stacey Salmon o Keighley yng Ngogledd Swydd Efrog gerbron y llys yn Llundain ddoe (dydd Gwener, Hydref 22), wedi’u cyhuddo o droseddau brawychol.

Hefyd gerbron y llys roedd Samuel Whibley, dyn 28 oed o Dderwen Deg, Porthaethwy.

Cafodd y pedwar eu harestio’n gynharach eleni mewn sawl eiddo yng Ngogledd Swydd Efrog, Wiltshire a gogledd Cymru.

Aeth y pedwar gerbron y llys trwy gyswllt fideo o’r carchar yn Swydd Efrog i wadu cyfanswm o 15 o gyhuddiadau.

Y cyhuddiadau

Mae Daniel Wright, Liam Hall a Stacey Salmon yn wynebu cyhuddiad o fod â chydrannau arf 3D yn eu meddiant at ddibenion brawychol.

Mae Wright, dyn 29 oed o Keighley, wedi’i gyhuddo o ddosbarthu deunydd brawychol, bod â chyfarpar at ddibenion brawychol yn ei feddiant, ac o gasglu gwybodaeth yn groes i Erthygl 58 y Ddeddf Frawychiaeth.

Mae e hefyd wedi’i gyhuddo o fod ag arf yn ei feddiant ac o greu arf.

Mae Liam Hall, dyn 30 oed o Keighley, wedi’i gyhuddo o fod â chyfarpar at ddibenion brawychol yn ei feddiant, yn ogystal â bod ag arf yn ei feddiant ac o greu arf.

Mae Stacey Salmon, 28 oed o Keighley, wedi’i chyhuddo fod â chyfarpar at ddibenion brawychol yn ei meddiant ac o fod ag arf yn ei meddiant.

Mae Samuel Whibley, dyn 28 oed o Borthaethwy, wedi’i gyhuddo o annog brawychiaeth ac o ddosbarthu deunydd brawychol.

Mae lle i gredu bod yr holl droseddau wedi’u cyflawni rhwng mis Ionawr a mis Mai eleni.

Cafodd y pedwar eu cadw yn y ddalfa, ac fe fyddan nhw’n mynd gerbron Llys y Goron Sheffield fis Ionawr nesaf.