Mae un o ymgynghorwyr Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “bryderus iawn” y bydd yna gyfnod clo arall dros gyfnod y Nadolig, wrth iddo rybuddio bod y cyfraddau Covid-19 presennol yn “annerbyniol”.

Mae’r Athro Peter Openshaw, sy’n aelod o Nervtag, yn dweud bod mesurau megis gwisgo mygydau a gweithio gartref “mor bwysig” fel rhan o’r ymdrechion i reoli’r feirws.

Daw ei sylwadau ar ôl i Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, wrthod galwadau arweinwyr iechyd i gyflwyno cyfyngiadau llymach er bod cyfraddau’n codi eto.

Dywedodd Sajid Javid, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, yr wythnos ddiwethaf y gallai’r gyfradd godi i 100,000 o achosion y dydd ond mae Downing Street yn mynnu nad yw’r Gwasanaeth Iechyd wedi’i lethu ar hyn o bryd ac nad oes angen ‘Cynllun B’ oni bai bod gwasanaethau “dan bwysau sylweddol”.

Mae ‘Cynllun B’ yn cynnwys gweithio gartref a gwneud gwisgo mygydau’n orfodol.

‘Rhaid gweithredu ar unwaith’

“Rwy’n bryderus iawn ein bod ni am gael cyfnod clo arall adeg y Nadolig os nad ydyn ni’n gweithredu’n fuan,” meddai’r Athro Peter Openshaw o Goleg Imperial Llundain wrth BBC Breakfast wrth siarad o safbwynt personol.

“Rydym yn gwybod o ran mesurau iechyd cyhoeddus fod rhaid gweithredu ar unwaith.

“Does dim diben oedi.

“Os ydych chi’n oedi, yna mae angen i chi gymryd camau llymach fyth yn nes ymlaen.

“Mae ymateb ar unwaith yn gwbl hanfodol os ydych chi am reoli pethau.”

Mae’n dweud ei bod hi’n “annerbyniol gadael i hyn redeg ar hyn o bryd”, a bod ysbytai “braidd yn ymdopi” ac nad yw’r sefyllfa bresennol “yn gynaladwy”.

“Dw i’n meddwl ei bod hi jyst yn annerbyniol gweld nifer y marwolaethau sydd gyda ni ar hyn o bryd,” meddai, gan ychwanegu bod 180 o farwolaethau mewn un diwrnod yr wythnos ddiwethaf.

“Mae hynny jyst yn ormod o farwolaethau.

“Rydyn ni fel petaen ni wedi arfer â’r syniad ein bod ni am gael nifer fawr o bobol yn marw o Covid, a dw i’n meddwl nad yw hynny’n wir.

“Rhaid i ni arafu’r ymlediad ac ymdrechu o’r newydd i frechu pawb a’u hatgyfnerthu, ac yna gallwn ni agor eto.”

Mae’n rhybuddio y dylai pobol “fynd â’r sefyllfa i mewn i’ch dwylo eich hun” ac na ddylid “aros am bolis’r Llywodraeth”.

Brechlyn yn unig ddim yn ddigon

Daw ei sylwadau wrth i Sefydliad Iechyd y Byd rybuddio nad yw’r brechlyn ar ei ben ei hun yn ddigon i godi’r byd allan o’r pandemig.

“Y broblem yw canolbwyntio ar un peth, dydy’r brechlyn ddim am ein cael ni allan o hyn,” meddai llefarydd wrth Times Radio.

“Mae gwir angen mesurau eraill arnom.

“Rhaid i ni fod o ddifrif am beidio â mynd i dorfeydd.

“Mae’n rhaid i ni barhau i edrych ar wisgo mygydau, yn enwedig pan ydych chi dan do.”