Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi na fydd unrhyw newidiadau i’r tymor ysgol cyn y Nadolig, ar ôl i rai awdurdodau eraill yn y gogledd benderfynu cau ynghynt.

Bydd ysgolion yn y sir felly’n parhau i fod ar agor tan y dyddiad gwreiddiol, sef dydd Mercher, Rhagfyr 22, er bod pryderon ynghylch Covid-19 yn lledaenu yn agos at yr ŵyl.

Fe wnaeth cynghorau Sir Ddinbych, Wrecsam, ac Ynys Môn gyhoeddi ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 13) eu bod nhw’n dod â dysgu wyneb yn wyneb i ben yn gynnar, gan ddechrau dysgu ar-lein mor gynnar â dydd Gwener yma (Rhagfyr 17).

Heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 14), cyhoeddodd Cyngor Sir y Fflint eu bod nhw hefyd am ddod â dysgu wyneb yn wyneb i ben ddydd Gwener.

Daw hyn yn sgil cynnydd mewn achosion yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, gyda 408 achos newydd yn cael ei gofnodi ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 13) – mwy nag unrhyw fwrdd iechyd arall yng Nghymru.

Newidiadau

Mae Cyngor Conwy eto i gadarnhau unrhyw newidiadau i’w cynlluniau nhw, ond bydd Cyngor Gwynedd yn cadw trefniadau’r un fath.

“Gallwn gadarnhau y bydd ysgolion Gwynedd yn parhau ar agor tan 22 Rhagfyr yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru,” meddai llefarydd ar ran yr awdurdod.

“Bydd Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb Aml-Asiantaeth Gwynedd – sydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos ac yn ymateb yn briodol i’r holl ddata wyddonol sydd ar gael.

“Ar hyn o bryd, mae’r data yma’n dangos fod cyfraddau heintio yng Ngwynedd wedi gostwng yn sylweddol dros yr wythnos ddiwethaf. Serch hyn, os yw’r sefyllfa yn newid, mae trefniadau mewn lle i symud i ddysgu cyfunol os yw ysgol unigol yn cyrraedd hiciau penodol o ran niferoedd achosion a/neu lefelau staffio.

“Fel Cyngor rydym yn ddiolchgar i holl staff ein hysgolion am eu gwaith caled a’u hymrwymiad drwy’r cyfnod anodd yma ac i rieni a gwarchodwyr am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth barhaus.”

‘Angen ystyried cau ysgolion’

Ddechrau mis Rhagfyr, fe wnaeth Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd, godi’r posibilrwydd y byddan nhw’n ystyried cau ysgolion yn yr wythnosau hyd at y Nadolig, yn dilyn lefelau “dychrynllyd” o Covid-19 yn y sir.

“Mae’n ymddangos bod [y firws] yn lledaenu drwy ysgolion a thrwy gymdeithasu tu allan i ysgolion,” meddai ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.

“Mi fyddai’n anodd gosod cyfyngiadau cyn y Nadolig, wrth gwrs penderfyniad y llywodraeth ydy hynny ac mae’n rhaid dilyn y cyngor gwyddonol.

“Dw i’n credu bod lle i ystyried a ddylen ni fod yn cau ysgolion am yr wythnos olaf cyn y Nadolig, er mwyn rhoi rhyw fath o doriad cyn inni gyd ddechrau cymdeithasu gyda’n gilydd.

“Mae’r neges yn glir eto: byddwch yn ofalus, cadwch bellter cymdeithasol, golchwch eich dwylo, a gwisgwch fwgwd.

“Mae’r darogan yn dweud ein bod ni wedi cyrraedd y pegwn, ac rydyn ni’n gobeithio y byddwn ni’n gweld gostyngiadau.”

Roedd deg ysgol yng Ngwynedd wedi ailgyflwyno dysgu ar-lein ar gyfer rhai blynyddoedd ychydig wythnosau yn ôl.

Yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 9, roedd 669.6 achos o Covid-19 ym mhob 100,000 o’r boblogaeth – yr ail uchaf o holl awdurdodau’r gogledd.

Angen “ystyried cau ysgolion” yn gynt cyn y Nadolig

Byddai hynny’n “rhoi rhyw fath o doriad cyn inni gyd ddechrau cymdeithasu gyda’n gilydd” dros yr ŵyl, medd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn
Disgybl yn ysgrifennu mewn llyfr nodiadau

Newid i drefniadau diwedd tymor ysgolion Ynys Môn yn sgil Covid-19

Bydd dysgu cyfunol yn cael ei ailgyflwyno yn ystod tridiau ola’r tymor, a dysgu wyneb yn wyneb yn dod i ben i’r mwyafrif ddydd Gwener (Rhagfyr 17)