Bydd Cymru’n derbyn arian ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i dalu am ddosys atgyfnerthu o’r brechlynnau Covid-19.
Bydd Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, yn cyhoeddi’r swm yn y dyddiau nesaf, ac mae’n dweud y bydd yn parhau i adolygu’r sefyllfa.
Bydd yr arian hwn yn ychwanegol i’r grantiau sy’n cael eu rhoi yn ôl Fformiwla Barnett.
“Trwy gydol y pandemig hwn, mae’r Deyrnas Unedig wedi cydsefyll fel un teulu, a byddwn ni’n parhau i wneud hynny,” meddai Rishi Sunak.
“Rydym yn cydweithio â’r llywodraethau yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon i yrru’r rhaglen frechu yn ei blaen i bob cornel o’r Deyrnas Unedig ac i sicrhau bod pobol a busnesau ledled y wlad yn cael eu cefnogi.”
Fydd y Trysorlys ddim yn cadarnhau unrhyw arian trwy Fformiwla Barnett yn ystod y flwyddyn tan y flwyddyn nesaf a hynny fel rhan o broses amcangyfrifon atodol.
Roedd y llywodraethau datganoledig wedi derbyn £12.6bn yn ychwanegol trwy Fformiwla Barnett eleni, gan fynd â’r cyfanswm ar gyfer y flwyddyn i £77.6bn.
Croesawu’r cyllid
“Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, rydym wedi mynd i’r afael â’r pandemig fel un Deyrnas Unedig, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn darparu brechlynnau, profion Covid a chefnogaeth gan y lluoedd arfog yng Nghymru, yn ogystal â’n mesurau ariannol sy’n torri tir newydd ac sydd wedi gwarchod oddeutu 500,000 o fywoliaethau yng Nghymru,” meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru.
“Mae’r cyhoeddiad cyllid heddiw yn cynnig sicrwydd i’r Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru wrth iddi geisio cynllunio’i hymateb pandemig ar gyfer yr wythnosau i ddod, a bydd yn cael ei ddilyn gan setliad o £18bn y flwyddyn o’r Gyllideb ddiweddaraf, sy’n record, fel y gall Llywodraeth Cymru ddarparu gwasanaethau hanfodol gan gynnwys iechyd, addysg a gwarchod rhag llifogydd yn y blynyddoedd i ddod.
“Byddwn yn parhau i wneud popeth allwn ni i ailadeiladu’n well o’r pandemig, gan greu swyddi a thyfu economi gref yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.”
‘Rhagor o sicrwydd’
Ond yn ôl Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, bydd angen mwy o sicrwydd ar Gymru o du’r Trysorlys ynghylch cefnogaeth ariannol pe bai cyfyngiadau llymach yn gorfodi busnesau i gau yn y flwyddyn newydd.
“Dw i’n credu ei bod hi’n anodd eithriadol i unrhyw lywodraeth ddatganoledig gymryd camau o’r math yna heb wybod pa sicrwydd sydd gan y Trysorlys,” meddai wrth raglen Sharp End ITV Cymru.
“Dyna bwynt y gwnes i’n gryf iawn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddoe.
“Allwn ni ddim dychwelyd i’r sefyllfa roedden ni ynddi y llynedd lle cymeron ni gamau a bod y Trysorlys yn gwrthod helpu, a phan wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig benderfynu gweithredu yr wythnos ganlynol yn Lloegr, yn sydyn iawn cafodd llinynau pwrs y Trysorlys eu llacio ac fe ddaeth yr arian ar gael.
“Allwn ni ddim cael penderfyniadau iechyd cyhoeddus angenrheidiol yn cael eu gwneud dim ond pan fo Lloegr yn credu ei bod hi’n iawn iddyn nhw.”