Mae perchennog sinema a gafodd ei chyhuddo o anwybyddu gorchymyn llys gan ynadon i gau ei busnes ar ôl anwybyddu cyfyngiadau Covid-19, wedi cael dedfryd ohiriedig o garchar a dirwy sylweddol ar ôl pledio’n euog i ddirmyg llys.
Cafodd Anna Redfern ddedfryd o 28 diwrnod o garchar wedi’i gohirio am naw mis a dirwy o £15,000 – sy’n cyfateb i £5,000 am bob trosedd.
Mae ganddi 56 diwrnod i’w thalu.
Gorchymyn
Cafodd Cinema & Co yn Abertawe wybod gan Lywodraeth Cymru a phenaethiaid Cyngor Abertawe fod rhaid iddyn nhw gau, ar ôl i’r cwmni gael ei gyhuddo o beidio â chydymffurfio â chyfyngiadau Covid-19.
Roedden nhw’n gwrthod gweithredu pasys Covid, a doedd dim hylif golchi dwylo ar y safle, ymhlith mesurau eraill oedd yn cael eu hanwybyddu.
Dywedodd Anna Redfern ei bod hi’n “cymryd safiad” yn erbyn cynllun pasys Covid – sy’n ofynnol ar mwyn cael mynediad i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yng Nghymru – gan eu bod nhw’n ymyrryd â hawliau dynol.
Cafodd y sinema ar Stryd y Castell yng nghanol y ddinas hysbysiad gan Gyngor Abertawe i gau am o leiaf 28 diwrnod.
Ond fe ailagorodd y sinema ddiwrnod ar ôl i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi, ac roedden nhw’n hysbysebu rhagor o ddigwyddiadau.
Aeth Anna Redfern gerbron Llys Ynadon Abertawe fis diwethaf i apelio yn erbyn gweithredoedd y Cyngor, ond dyfarnodd y llys fod y Cyngor yn gyfreithiol gywir, oedd yn golygu y byddai’n rhaid i’r sinema gau yn unol â gorchymyn gwreiddiol y Cyngor.
Dywedwyd wrth Anna Redfern bryd hynny fod rhaid iddi dalu costau cyfreithiol y Cyngor, sef £5,265, ond roedd hi’n gwrthod o hyd.
Ond mae Cinema & Co unwaith eto wedi cael eu galw i’r llys oherwydd cyhuddiadau bod y sinema wedi twyllo’r dyfarniad ac wedi dangos ffilm Nadoligaidd.
Dywedodd Cyngor Abertawe ar Ragfyr 11 eu bod nhw wedi bolltio caeadau’r busnes i’r llawr ond yn y llys, dywedodd cyfreithiwr Anna Redfern y byddai hi’n gwneud cais i agor ei busnes “yn iawn” cyn gynted â phosib.
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Cinema & Co y byddai’n canslo’r holl ffilmiau am weddill y flwyddyn am resymau teuluol.
Mae Anna Redfern wedi cyfaddef dirmyg llys ac wedi dweud wrth y barnwr fod y mater ar ben.
Cymharu â’r ymgyrch paentio arwyddion ffyrdd
Yn ystod yr achos, gofynnodd ei chyfreithiwr, Jonathan Gwyn Mendus Edwards, i’r barnwr i beidio â’i danfon i’r carchar.
Fe gymharodd ei chyfreithiwr ei hachos i ymgyrch arwyddion dwyieithog o baentio arwyddion yn wyrdd fel modd o brotestio.
Cyrhaeddodd Anna Redfern y llys gyda’i brawd, y dyn busnes lleol Noah Redfern, a’r cyn-Aelod o’r Senedd, Neil McEvoy, ynghyd â rhai cefnogwyr eraill.
Dywedodd yr erlynydd nad oedd angen i’r mater fynd mor bell a bod yr achos wedi bod yn un drud, gyda’r awdurdod lleol yn hawlio costau gwerth £8,940 a hynny am ymweliadau yn hwyr y nos ac ar benwythnosau, a’r achos llys ei hun.