Mae Boris Johnson a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi goroesi gwrthdystiad gan aelodau meinciau cefn y Blaid Geidwadol, gan gynnwys David Jones, cyn-Ysgrifennydd Cymru.

Pleidleisiodd aelodau seneddol o 441 i 41 – mwyafrif o 400 – o blaid rheoliadau i ymestyn y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn mwy o leoliadau dan do yn Lloegr, gan gynnwys amgueddfeydd ac orielau.

Fe wnaethon nhw hefyd pleidleisio o 369 i 126 – mwyafrif o 243 – o blaid y defnydd gorfodol o basys Covid er mwyn cael mynediad i glybiau nos a lleoliadau mawr yn Lloegr.

Ac fe bleidleision nhw o 385 i 100 o blaid brechlynnau gorfodol i staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

Mae lle i gredu bod 98 o Geidwadwyr wedi pleidleisio yn erbyn y Llywodraeth ar fater y pasys Covid, a bod wyth aelod seneddol Llafur hefyd wedi pleidleisio yn groes i orchymyn eu harweinydd, Syr Keir Starmer.

Yn ôl adroddiadau, fe wnaeth 40 o Geidwadwyr wrthwynebu’r Llywodraeth ar fater gorchuddion wyneb gorfodol.

Yn dilyn y bleidlais, dyma’r mesurau a gafodd eu derbyn gan yr aelodau seneddol:

  • Mygydau’n orfodol yn y rhan fwyaf o leoliadau dan do, ac eithrio tafarnau, bwytai a champfeydd yn Lloegr
  • Yr hawl i bobol yn Lloegr sydd wedi’u brechu’n llawn sy’n dod i gysylltiad ag achos o Covid i gael profion dyddiol am saith niwrnod yn lle hunanynysu
  • Pasys Covid gorfodol yn Lloegr – gan ddangos statws brechu, prawf llif unffordd negyddol neu gwellhad o Covid – er mwyn cael mynediad i glybiau nos neu leoliadau mawr eraill
  • Brechu gorfodol i staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr o ddechrau mis Ebrill

Cyn y bleidlais, roedd adroddiadau bod y prif weinidog wedi dweud wrth aelodau seneddol Ceidwadol “nad oedd dewis” ond cyflwyno’i ‘Gynllun B’.

O ganlyniad, roedd e’n wynebu’r gwrthdystiad mwyaf ers iddo fe ddod i rym, wrth i’r Llywodraeth geisio rheoli ymlediad yr amrywiolyn Omicron, ac roedd e’n ymbil ar Bwyllgor 1922 i’w gefnogi yn fuan cyn y bleidlais.

Mae lle i gredu ei fod e hefyd wedi cynnal cyfarfodydd ag unigolion oedd yn bwriadu ei wrthwynebu neu ymatal rhag pleidleisio.

Wfftio pryderon

Roedd Dominic Raab, y Dirprwy Brif Weinidog, hefyd wedi bod yn ceisio tawelu ofnau’r aelodau seneddol drwy ddweud na fyddai cyflwyno pasys Covid yn “gam mawr” nac yn “llethr llithrig”.

Dywedodd y byddai modd i bobol ddangos prawf llif unffordd negyddol yn ogystal â dangos pasys Covid.

Ond roedd mwy na 70 o Geidwadwyr wedi mynegi pryderon am y cynigion, gan ddweud eu bod nhw’n “afresymegol ac yn anrhyddfrydol”.

Serch hynny, roedd hi’n ymddangos bod y trafodaethau wedi tawelu ofnau rhai pobol, gydag agweddau rhai ohonyn nhw’n dechrau meddalu.

Ond roedd eraill yn mynnu na fydden nhw’n newid eu meddyliau, wrth i Mark Harper, Aelod Seneddol Fforest y Ddena a’r cyn-Brif Chwip, ddweud y byddai’n anfon “neges glir” i’r Llywodraeth fod rhaid “ailfeddwl”.

“Mae ein mesurau Covid wedi brifo’n trigolion ac yn parhau i’w brifo,” meddai Andrea Leadsom, y cyn-weinidog Ceidwadol.

Ychwanegodd Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Iechyd, ei bod hi’n bwysig cynnig yr opsiwn o gael profion llif unffordd ac na fyddai’n cefnogi system lle mai cael brechlyn fyddai’r unig opsiwn.

Dywedodd llefarydd ar ran Boris Johnson wedyn fod ‘Cynllun B’ – cyflwyno pasbortau brechu heb fod opsiwn o gael profion negyddol – wedi’i roi o’r neilltu.

Dadansoddiad: Prif weinidog dan y lach

Daw’r bleidlais ar adeg pan fo Boris Johnson, ei staff a’r llywodraeth dan y lach am gyfres o ddigwyddiadau a ddaeth i’r amlwg yn ddiweddar.

Maen nhw’n wynebu honiadau eu bod nhw wedi ymddwyn yn groes i’r cyfyngiadau y llynedd, ar adeg pan oedd cyfnod clo yn mynd rhagddo, wrth ymgynnull ar gyfer partïon.

Maen nhw hefyd yn wynebu is-etholiad yng Ngogledd Sir Amwythig yn dilyn helynt Owen Paterson, oedd wedi gorfod ymddiswyddo am dorri rheolau lobïo.

Roedd un aelod seneddol Ceidwadol, Marcus Fysh, wedi mynd mor bell â chymharu’r cynllun pasys Covid â Natsïaeth Hitler – cafodd y sylwadau eu beirniadu gan Dominic Raab, sy’n fab i Iddew oedd wedi ffoi o Tsiecoslofacia yn 1938.