Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch newydd sy’n galw ar y cyhoedd i herio rhagdybiaethau ynghylch aflonyddu ar fenywod.

Daw hyn wrth i ystadegau diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddangos bod dwy allan o bob tair menyw rhwng 16 a 34 oed wedi profi o leiaf un math o aflonyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd 44% ohonyn nhw wedi profi pobol yn hwtian neu’n chwibanu atyn nhw, gwneud sylwadau rhywiol digroeso neu’n rhannu jôcs amhriodol, tra bod 29% yn teimlo bod rhywun yn eu dilyn.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n awyddus i helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith gwahanol gymunedau Cymru am yr ymddygiadau sy’n gysylltiedig â gwahanol fathau o aflonyddu a’r teimladau maen nhw’n eu codi ar yr unigolion sy’n eu profi.

Mae’n galw ar bobol sy’n gweld ymddygiadau amhriodol o’r fath – dynion yn benodol – i’w herio pan fo’n ddiogel i wneud hynny,

Mae hyn yn cynnwys annog dynion i herio ymddygiadau amhriodol a rhywiaethol ymhlith eu ffrindiau a’u cydweithwyr mewn modd diogel, gan hybu diwylliant sy’n ystyriol o gydraddoldeb a pharch.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae modd gwneud hyn drwy weithredu yn y modd canlynol:

  • Trefnu cwrdd â’r unigolyn dan sylw ar wahân i drafod yr hyn a gafodd ei ddweud
  • Peidio â theimlo o dan bwysau i ymuno yn yr hwyl pan fydd sgyrsiau neu jôcs rhywiaethol yn cael eu rhannu
  • Gofyn cwestiynau megis ‘Beth ydych chi’n ei feddwl wrth hynny? Pam ydych chi’n meddwl fel yna?’

“Hanfodol” fod dynion yn herio ymddygiad amhriodol

“Rydyn ni wedi treulio llawer o amser yn sôn am drais a throseddau rhywiol yn erbyn menywod a merched, ond yn aml mae pethau’n dechrau gyda rhywun yn gwneud sylwadau bach diniwed, a gydag ymddygiadau efallai nad ydyn ni wedi ystyried, fel dynion, eu bod yn gwneud i fenywod deimlo’n llai diogel o bosibl,” meddai’r cyn-Brif Erlynydd Nazir Afzal, un o Ymgynghorwyr Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod.

“Neges yr ymgyrch hon yw nad yw’n iawn i ddweud ‘Dim ond hyn roeddwn i’n ei feddwl’ a ‘Dim ond hyn wnes i’.

“Mae’n gwbl hanfodol i ddynion fel ni ddechrau herio ein hymddygiad sy’n gyfrifol am wneud i fenywod deimlo’n llai diogel.

“Mae angen gwneud mwy na dweud ‘Dwi ddim yn i’n rhywiaethol’, neu ‘Dwi ddim yn casáu menywod’ yn unig.

“Mae angen ichi fod yn wrth-rywiaethol, mae angen ichi weithio yn erbyn casineb at fenywod, am ein bod ni’n gyfrifol am greu’r amgylchedd sy’n ei gwneud yn bosibl i ymddygiadau mwy difrifol ddigwydd.

“Meddyliwch am effeithiau’r hyn rydych chi’n ei wneud a rhowch derfyn arno.”

‘Annerbyniol’

“Ni fydd Cymru yn goddef aflonyddu rhywiol, stelcio na chamdriniaeth,” meddai Jane Hutt, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol.

“Mae’r ymgyrch newydd hon yn bendant iawn ac yn heriol iawn, yn fwriadol, am y rheswm syml fod angen herio pob un o’r ymddygiadau hyn yn uniongyrchol.

“Nid yw’r un o’r ymddygiadau hyn yn dderbyniol, nid yw’r un ohonynt yn iawn.

“Dim ond unwaith y bydd rhai ohonynt yn digwydd, ond gydag eraill, gall pethau waethygu.

“Rydyn ni’n clywed y geiriau ‘dim ond’ yn cael eu defnyddio yn aml i esgusodi ymddygiadau amhriodol.

“Mae dynion yn eu defnyddio er mwyn cyfiawnhau’r hyn y maent yn ei wneud.

“Mae pobl yn eu defnyddio i ddiystyru’r ofnau dilys sydd gan fenywod.

“Drwy’r ymgyrch hon, rydyn ni am ddangos yr hyn sy’n gallu deillio o’r meddylfryd hwn.

“Dyna pam mae angen i ddynion herio eu hymddygiadau eu hunain a, pan fo’n ddiogel i wneud hynny, ymddygiadau ei gilydd hefyd.”