Mae annibyniaeth i Gymru yn “anochel” yn ôl melin drafod newydd o’r enw ‘Melin Drafod’.
Daw hyn wrth i fudiadau o blaid annibyniaeth ddatgan eu bwriad i sefydlu confensiwn a fydd yn amlinellu sut y gall Cymru ddod yn wlad annibynol.
Dywed y mudiadau fod rhaid i Gymru fod â chynllun ar gyfer ennill annibyniaeth, gan roi ystyriaeth benodol i fwriad yr Alban i gynnal refferendwm yn 2023.
Bydd ‘Melin Drafod’ yn tynnu ynghyd glymblaid o sefydliadau i ystyried cwestiynau ymarferol gan gynnwys rhai cyllid, arian cyfred, a pherthnasau rhyngwladol.
Eu nod yw cyflwyno cynllun cychwynnol erbyn diwedd 2022, a chyhoeddi’r adroddiad terfynol erbyn haf 2023.
‘Nid oes amser i’w golli’
“Mae angen i Gymru fod yn barod i gymryd ei chyfle i ymuno â gweddill cenhedloedd rhydd y byd,” meddai Talat Chaudhri, cadeirydd Melin Drafod.
“Nid oes amser i’w golli – gyda’r Deyrnas Gyfunol yn prysur ddadfeilio, mae’n rhaid i Gymru fod yn barod am ei dyfodol fel gwlad annibynnol flaengar.
“Mae annibyniaeth i Gymru yn anochel.
“Rydym yn dod at ein gilydd achos bod angen cynllun arnon ni i ddefnyddio pwerau annibyniaeth i gyd-greu cymdeithas deg, werdd a flaengar. Os ydym yn cael y cynllun yn iawn, gallwn ni fod yn enghraifft i weddill y byd.
“Allwn ni ddim dibynnu ar eraill i lunio ein tynged i ni: mae angen i ni, dinasyddion cyffredin Cymru, gymryd yr awenau ein hunain.”