Mae staff y lluoedd arfog sydd wedi cael eu galw i mewn i helpu’r Gwasanaeth Ambiwlans yn haeddu gwell na gorfod gweithio heb ddigon o hyfforddiant, yn ôl undeb GMB.

Mae’r undeb yn dweud mai deuddydd o hyfforddiant maen nhw’n ei gael cyn gorfod ceisio helpu cleifion, a bod y sefyllfa’n eu rhoi nhw o dan gryn straen gan nad oes modd iddyn nhw helpu fel y dylen nhw fod yn gallu ei wneud.

Maen nhw’n galw am ragor o hyfforddiant wrth iddyn nhw orfod helpu’r gwasanaeth sydd dan bwysau cynyddol o ganlyniad i ddiffyg staff ac effaith y pandemig Covid-19.

Yn ôl yr undeb, mae nifer cynyddol o staff milwrol yn cymryd cyfnodau o salwch i ffwrdd o’r gwaith ar ôl cael eu galw i helpu, ac mae’r undeb yn galw am hyfforddiant go iawn i’r staff hynny fel bod modd iddyn nhw weithio’n fwy effeithiol wrth gynnig cymorth.

‘Mater hyfforddiant, nid personél’

“Yn syml iawn, mae ein personél milwrol yn haeddu gwell,” meddai Nathan Holman, trefnydd y GMB.

“Mater hyfforddiant yw hwn, nid personél – ac mae angen yr hyfforddiant arnyn nhw i allu helpu’n effeithiol.

“Ni ddylai ein milwyr gael eu gadael yn sefyll ar yr ymylon yn rhwystredig.

“Dylen ni roi’r offer iddyn nhw fod mor effeithiol ag y gallan nhw fod, a dylai hynny fod ar ffurf yr hyfforddiant cywir, nid cwrs blasu deuddydd.”