Mae Radio Cymru wedi cyhoeddi y bydd pum llais newydd i’w clywed ar raglen Bore Sul BBC Radio Cymru rhwng 8yb a 10yb, gan gynnwys Huw Edwards.
Bob wythnos, yn eu tro, bydd pump llais cyfarwydd yn cyflwyno’r rhaglen Bore Sul.
Ar Ionawr 2, y newyddiadurwr cyntaf i gymryd yr awenau ac i sgwrsio am straeon yr wythnos fydd Iwan Griffiths.
Mae’n ohebydd i Newyddion 9 ac yn cyflwyno rhaglenni uchafbwyntiau Eisteddfod yr Urdd ers rhai blynyddoedd.
Un o’r lleisiau mwyaf adnabyddus i ymuno â chriw Bore Sul fydd Huw Edwards, prif gyflwynydd BBC News at Ten.
“Mae’r cyfle i ddarlledu yn rheolaidd ar Radio Cymru yn fy mhlesio yn arw – ac edrychaf ymlaen at dreulio boreau Sul yn trafod cyflwr pethau yng nghwmni cyd-Gymry,” meddai Huw Edwards.
Yn cael ei chroesawu yn ôl i’r orsaf fydd Betsan Powys, cyflwynydd Pawb a’i Farn S4C a chyn-olygydd BBC Radio Cymru.
Bydd Bethan Rhys Roberts, prif gyflwynydd Wales Live a Newyddion 9 hefyd yn un o’r pum cyflwynydd newydd ac mae hi’n gobeithio cynnig sgwrs a thipyn o hwyl i wrandawyr BBC Radio Cymru.
‘Braint’
Hefyd yn rhan o’r tîm cyflwyno newydd fydd Elliw Gwawr, Gohebydd Seneddol BBC Cymru yn San Steffan ac awdur llyfrau pobi a’r blog Paned a Chacen.
“Mae’n fraint cael ymuno a’r tîm talentog yma o newyddiadurwyr fydd yn olynu Dewi Llwyd ar fore Sul,” meddai.
“Mae ei raglen wedi bod yn rhan bwysig o benwythnos llawer iawn ohonom.
“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i ymuno efo pobol yn eu cartrefi ar draws Cymru i sgwrsio am bynciau mawr a bach y dydd, a chael cyfle i drafod mwy na dim ond gwleidyddiaeth.”
‘Cryfderau unigol’
“Pa ffordd well i lenwi’r bwlch y bydd Dewi Llwyd yn ei adael ar foreau Sul ar Radio Cymru, na gyda phum cyflwynydd dwi’n ffyddiog y bydd ein cynulleidfa’n dotio arnynt,” meddai Dafydd Meredydd, y Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg.
“Pob un gyda’u cryfderau unigol, ond hefyd gydag ambell beth yn gyffredin, gan gynnwys meddwl newyddiadurol craff yn ogystal â phersonoliaeth gynnes a’r agosatrwydd i’r gynulleidfa y mae gwrandawyr rhaglen Dewi Llwyd yn ei ddisgwyl a’i haeddu.
“Wrth i ni ddiolch am ei waith aruthrol a dymuno’n dda i Dewi, mae’n hynod o gyffrous gallu croesawu Bethan, Betsan, Elliw, Huw ac Iwan i’n teulu o gyflwynwyr ar Radio Cymru.
“Pob hwyl iddynt!”